Rhoi Tridiau i Thomas Cook

Thomas Cook ban WelshMae Cymdeithas yr iaith Gymraeg yn cyhoeddi heddiw ei bod yn rhoi tri diwrnod i'r cwmni teithio Thomas Cook newid ei feddwl ar fater gwahardd y staff rhag siarad Cymraeg.

Dywedodd Dafydd Morgan Lewis, Swyddog Ymgyrchoedd y Gymdeithas:"Yr ydym yn rhoi tri diwrnod i'r cwmni hwn newid ei feddwl, ac os na chawn gadarnhad fod hynny yn digwydd fe fyddwn yn cynnal protest tu allan i siop y cwmni ym Mangor am 1 o'r gloch dydd Gwener Mehefin 15ed ac yn gwahodd pawb sy'n teimlo'n gryf ynglyn ar mater hwn i ddod yno.""Mae'n gywilydd o beth fod y cwmni yn gwahardd y staff rhag siarad Cymraeg ac yn profi unwaith eto pa mor ddiwerth yw'r Ddeddf Iaith sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd a'r angen i'w chyfneid am un gryfach."