Protest Thomas Cook Bangor, Caerfyrddin a Chaerdydd

protest-thomas-cook.jpgRhwng 1 a 2 o'r gloch heddi (dydd Gwener Mehefin 15) fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal protest y tu allan i siop Thomas Cook ym Mangor oherwydd polisi'r cwmni hwnnw o wahardd staff rhag defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Ar yr un pryd fe fydd protestiadau bach eraill yn cael eu cynnal tu allan i siop y cwmni yn Heol y Frenhines, Caerdydd ac yng Nghaerfyrddin.

Gwahoddir y rhai sy'n mynychu'r brotest i arwyddo llythyr at y cwmni sy'n darllen fel hyn:“Yr ydych yn gwybod erbyn hyn gymaint y gwrthwynebiad sydd wedi bod i'ch penderfyniad i ragfarnu yn erbyn y Gymraeg trwy ofyn i'ch staff beidio a siarad Cymraeg wrth drafod eu gwaith. Galwn arnoch i ddweud y gair bach, yn eich iaith eich hunain, SORRY wrth eich staff ac wrth y gymuned leol yr ydych wedi ei hamharchu.""Nodwn ymhellach eich bod yn ymarferol eich bod wedi gwahardd y Gymraeg o'ch holl gyhoeddiadau, hysbysiadau a gwefan. Galwn arnoch i wneud defnydd trwyadl o'r Gymraeg trwy eich busnes i gyd. Fel arall, rhaid bydd i ni gasglu, eich bod yn bwriadu glynu wrth eich agweddau gwrth-Gymraeg hyd nes bod Deddf Iaith newydd yn gorfodi newid arnoch. Os felly, byddwn yn galw ar ein cydnabod ôl, i beidio a masnachu gyda chi.”Nid yn unig fe fydd gwahoddiad i'r protestwyr arwyddo'r llythyr hwn at gwmni Thomas Cook, fe fyddant hefyd yn gwisgo'r arwydd WELSH NOT am eu gyddfau, gan fod polisi Thomas Cook yn dwyn i gof yr amser hwnnw pan oedd plant Cymru yn cael eu cosbi am siarad Cymraeg yn yr ysgol.Rydym yn annog y cyhoedd i'w cosbi trwy beidio a rhoi busnes iddyn nhw, a thrwy gysylltu gyda'r brif swyddfa i gwyno ac i fynnu bod Thomas Cook yn ymddiheuro ac yn rhoi terfyn ar y gwaharddiad:Customer Relations, Thomas Cook, 2/4 Godwin Street, BradfordBD1 2ST. customer.relations@thomascook.comPoster Thomas Cook (PDF) - Taflen Thomas Cook (PDF)