Arestio 4 ar ôl protest iaith

brantano-peacocks.jpgAm 12.30pm heddiw (Dydd Sadwrn 14/10), gorymdeithiodd tua 100 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg draw at ‘Ystwyth Retail Park’, yn Aberystwyth, i gynnal Rali Brotest. Yn ystod y brotest, cafodd pedwar aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio - Gwenno Teifi, Geraint Edwards, Ceri Phillips a Siwan Tomos - am chwistrellu'r geiriau ‘Deddf Iaith Newydd’ ar flaen siop Brantano.

Trefnwyd y brotest hon gan fod holl arwyddion allanol y Parc Siopa newydd yn Saesneg yn unig, a gan fod nifer o’r siopau sydd wedi ymsefydlu yno - fel Peacocks a Brantano - wedi gwrthod defnyddio’r Gymraeg.Roedd y brotest wedi dechrau yn dawel y tu allan i Siop y Pethe Aberystwyth lle cafodd torf o brotestwyr eu hanerch gan Gwenno Teifi - Cadeirydd Cell Prifysgol Aberystwyth Cymdeithas yr Iaith, Y Cynghorydd Marc Strong o Gyngor Tref Aberystwyth a Menna Machreth - Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.Pwysleisiodd y tri fod Cyngor Tref Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion yn gofyn i bob siop a busnes oedd yn symud i'r dre fabwysiadu polisi dwyieithog ond mai ychydig sy'n dewis gwneud hyn am nad yw'r Ddeddf Iaith bresennol yn eu gorfodi i wneud hynny. Dywedodd Menna Machreth;“Nid yn unig yr ydym yn gofyn i'r siopau sy'n dod i'r dre fabwysiasdu polisi dwyieithog, yr ydym yn gofyn iddynt werthu cynyrch lleol hefyd, drwy wneud hyn byddent yn cefnogi nid yn unig y diwylliant lleol ond yr economi leol hefyd.”O Siop y Pethe symudodd y protestwyr yn eu blaen heibio i'r siop sglodion newydd Espresso, gan lynu sticeri yn galw am Ddeddf Iaith ar y siop honno gan ei bod yn enghraifft o fusnes newydd yn y dre sydd heb weithredu polisi dwyieithog.Aeth y protestwyr yn eu blaen wedyn i'r ‘Ystwyth Retail Park’, datblygiad siopa newydd anferth yn Aberystwyth. Dyma lle yr anerchwyd y dorf gan Sian Howys - Llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Ddeddf Iaith Newydd. Dywedodd:"Rwy'n herio Rhodri Morgan i ddod lawr i weld datblygiad newydd hollol Saesneg o’r fath, i weld yn glir yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.”Cyfeiriodd hi hefyd at y ffaith i aelodau o Gell y Gymdeithas yn y Brifysgol fynd i siarad a'r siopau yn y Parc Siopa ac mai'r ymateb gan Brantano Footwear oedd - “There's no need for Welsh since we're all British.”Yn dilyn y paentio slogannau, fe feddianwyd siop Brantano am gyfnod o hanner awr gan aelodau’r Gymdeithas. Pwysleisiodd Sian Howys na fyddai rhaid i’r staff wynebu protestiadau o’r fath petai yna ddeddfwriaeth ieithyddol digonol.Mae'r pedwar aelod a gafodd eu harestio yn dal yn y ddalfa.