Am 12:30 heddiw cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddrafft mesur iaith Gymraeg ger bron y pleidiau yn y Cynulliad. Cafodd y digwyddiad ei noddi gan y Blaid Geidwadol, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol a chafwyd araith gan bob un o'r pleidiau.
Y tu allan i'r cyfarfod cafwyd cyflwyniad gweladwy gan ugain o fyfyrwyr oedd am bwysleisio'r angen am ddeddfwriaeth bellach ym maes y Gymraeg. Cyn hynny, cynhaliwyd cyfarfod arbennig gyda Llywydd y Cynulliad gan ymateb i'w her ef ar i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru lunio mesurau ar gyfer y Cynulliad.Roedd y cyfarfod yn llwyddiant mawr gyda llond ystafell o bobl wedi dod i wrando. Er nad oedd Alun Pugh y Gweinidog Diwylliant yno ei hun mae wedi cytuno i gyfarfod â dirprwyaeth o aelodau'r Gymdeithas i drafod y Mesur Dedd Iaith.Meddai Catrin Dafydd, Grwp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae ymrwymiad y gwrthbleidiau yn arwydd clir o'u gweledigaeth nhw ar gyfer y cyfnod newydd yn y Cynulliad a ddaw wedi etholiadau mis Mai. Mesur ar yr Iaith Gymraeg ddylai fod un o'r mesurau cyntaf i'w basio pan ddaw pwerau ychwanegol i'r Cynulliad. Rydym ni yn awr yn gwahodd sylwadau ar ein drafft mesur iaith."Ychwanegodd:"Yn ogystal â'r drafft mesur mae Cymdeithas yr Iaith wedi casglu miloedd ar filoedd o enwau ar ddeisebau sy'n galw am ddeddfwriaeth bellach ym maes y Gymraeg. Fe fyddwn yn cyflwyno'r ddeiseb yn y flwyddyn newydd fel arwydd pellach o ddyhead pobl Cymru i gael statws swyddogol i'r Gymraeg ynghyd â hawliau penodol i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd."
- Mesur yr Iaith Gymraeg 2007 (PDF, 56KB) - Drafft Cymdeithas yr Iaith o Ddeddf Iaith Newydd
- Welsh Language Measure 2007 (PDF, 56KB) - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg’s draft of a new Welsh Language Act
Cyflwyniad gweladwy gan gefnogwyr
Catrin Dafydd yn cyfarfod â Llywydd y Cynulliad
Ieuan Wyn Jones AC yn annerch y cyfarfod