Am 10.30 y.b. dydd Mercher y 6ed o Chwefror fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno deiseb i Lywodraeth y Cynulliad ag arni dros 10,000 o enwau pobl sydd yn cefnogi cael Deddf Iaith Newydd dros y Gymraeg. Mae’r digwyddiad hanesyddol yma yn dynodi penllanw arwyddocaol yn yr ymgyrch dros sefydlu deddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg ac yn dynodi ffrwyth blwyddyn o lafur a wnaed gan aelodau’r Gymdeithas. Bydd Hywel Williams AS a Ieuan Wyn Jones AC o Blaid Cymru, Eleanor Burnham AC o’r Democratiaid Rhyddfrydol a Lisa Francis AC a Nick Bourne AC o’r Blaid Geidwadol yn bresennol i fod yn dystion i’r cyflwyniad. Yn ôl eu harfer mae’r Blaid Lafur wedi dangos diffyg gweledigaeth a dirmyg llwyr tuag at bobl Cymru trwy wrthod bod yn bresennol yn y cyflwyniad.
Yn ogystal a chyflwyno’r ddeiseb, bydd Hywel Williams AS yn cyflwyno copi o Ddrafft Mesur Iaith y Gymdeithas i’r Aelodau Cynulliad. Dyma weithred symbolaidd a fydd yn arwydd o gred y Gymdeithas mai Deddf Iaith Newydd ddylai fod y ddeddf gyntaf i gael ei phasio gan Lywodraeth y Cynulliad wedi iddi dderbyn ei phwerau deddfu newydd gan San Steffan ym mis Mai.Dywedodd Catrin Dafydd, cadeirydd grŵp Deddf Iaith Newydd y Gymdeithas,"Ers dros flwyddyn bellach mae’r consensws cenedlaethol, trawsbleidiol ymhlith gwleidyddion y gwrthbleidiau ac arbenigwyr iaith dros Ddeddf Iaith Newydd wedi dod yn amlwg i bawb. Mae cyflwyno’r ddeiseb yma yn brawf digamsyniol fod pobl ar lawr gwlad Cymru am weld yr iaith Gymraeg yn derbyn statws swyddogol, ac am weld hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd yn cael eu diogelu. Hyd yma mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dewis anwybyddu’r consensws trawsbleidiol ymysg y gwrthbleidiau, - mae’r ffaith eu bod nawr hefyd yn anwybyddu barn pobl Cymru trwy wrthod bod yn bresennol yn y cyflwyniad yn dangos dirmyg llwyr.""Mae’n briodol iawn bod Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad yn ymuno gyda ni heddiw i dystio i gyflwyniad y ddeiseb oherwydd yn ogystal bydd gweithred symbolaidd Hywel Williams AS o gyflwyno ein Mesur Iaith i’r Aelodau Cynulliad yn arwydd clir o’r ffaith mai mater i Lywodraeth Cymru bydd pasio Deddf Iaith Newydd. Gobeithio y bydd yr aelodau yma o’r gwrthbleidiau yn derbyn yr her ac yn sicrhau mai Deddf Iaith Newydd fydd y ddeddf gyntaf i’w phasio wedi i’r Cynulliad dderbyn ei phwerau ychwanegol. Dyna yw dymuniad pobl Cymru."Pressure grows for new Language Act - Daily Post, Chwefror 8 200710,000 calling for a new language act - South Wales Echo, Chwefror 8 2007Cyflwyno deiseb deddf iaith - BBC Cymru'r Byd, Chwefror 7 2007Parties unite to back language campaign - icwales.co.uk, Chwefror 7 2007Plaid yn Cefnogi Ymgyrch Iaith - Plaid Cymru, Chwefror 7 2007Plaid support Welsh language campaign - Plaid Cymru, Chwefror 7 2007