Deddf Iaith

Cymdeithas yn datgan pryder a rhwystredigaeth am y broses o drosglwyddo pwerau deddfu i Gymru

carwyn-hywel.jpgAr drothwy cyfarfod rhwng Hywel Francis AS a Carwyn Jones AC yfory (21/07/09) i drafod y broses o drosglwyddo pwerau pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi pryderon a nodi eu rhwystredigaeth yngl?n â'r broses.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i Adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig ar y Gorchymyn Iaith

pwyllgor-mat-cym.jpgMae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu cyhoeddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig ac yn falch fod y Pwyllgor yn gweld yn dda mai y Cynulliad Cenedlaethol ddylai fod â'r cyfrifoldeb i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:'Mae'n galonogol fod y Pwyllgor Materion Cymreig yn unfrydol eu barn mai'r Cynulliad dylai ddeddfu ar yr iaith Gymraeg.

Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith

hain-francis.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan ei siom fod cyfarfod tyngedfennol i drafod y Gorchymyn Iaith wedi'i ohirio. Roedd Peter Hain wedi datgan y byddai Uwch Bwyllgor Cymru yn cyfarfod ar 8 Gorffennaf i drafod cais y Cynulliad i ddatganoli pwerau deddfu dros y Gymraeg i Gymru, er nad yw cyfarfod o'r fath yn angenrheidiol.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i Gyhoeddiad y Pwyllgor Deddfwriaethol ar y Gorchymyn Iaith

senedd-caerdydd.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn llongyfarch aelodau Pwyllgor Deddfwriaethol Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol am greu adroddiad sy'n datgan yn glir y dylid datganoli pwerau deddfwriaethol mor eang â phosibl dros yr iaith Gymraeg i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ymgyrchydd iaith yn galw am drosglwyddo pob grym deddfu am y Gymraeg i'r Cynulliad

Deuddydd cyn bod Pwyllgor Deddfwriaethol Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno adroddiad am y Gorchymyn Iaith i Lywodraeth y Cynulliad, fe ryddhawyd Ffred Ffransis o Garchar y Parc (ger Pen-y-bont) heddiw.

Mae'r frwydr dros Fesur Iaith yn parhau y tu mewn i garchar y Parc

Dedfrydwyd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis i 5 diwrnod o garchar gan ynadon Llanelli ddydd Llun ac fe'i cludwyd i garchar Parc, Pen-y-bont. Roedd ei garchariad yn dilyn ei ran yn ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Fesur Iaith cynhwysfawr newydd a fyddai'n cynnwys y sector breifat.Mewn sgwrs ffôn gyda'i wraig Meinir Ffransis heddiw, ddydd Mawrth, dywedodd Ffred nad oedd unrhyw ddarpariaeth o gwbl yn Gymraeg yng ngharchar Parc. Nid oes unrhyw ffurflenni nac arwyddion Cymraeg na dwyieithog, ac nid oes hyd yn oed Beibl Cymraeg ar gael yno.

Pwyllgor Craffu: Mae dyfodol Hawliau Iaith ieuenctid Cymru yn eich dwylo chi

mur-deddf-iaith-urdd093.jpgHeddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd, cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg furiau yn llawn llofnodion a dyheadau bobl Cymru am fesur iaith cyflawn i Lywodraeth y Cynulliad.Casglwyd y canoedd o lofnodion dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent yn galw ar Bwyllgor Craffu'r Cynulliad i fynnu bod yr holl bwerau dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i Gymru.Erbyn Mehefin 5e

Rali i fynnu hawliau i'r Gymraeg

Menna Machreth Rali CaerdyddDaeth dros 300 i rali a gynhaliwyd gan Gymdeithas yr Iaith tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd heddiw.

Rali Fawr mewn cyfnod allweddol yn y broses LCO

Bydd yr ymgyrch i ehangu sgôp y Gorchymyn Iaith (LCO) yn dod i'w benllanw Ddydd Sadwrn Mai 16eg pan fydd Rali Fawr yn cael ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am 2pm tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd.Caiff y Rali ei gynnal ar adeg tyngedfennol oherwydd mae Cymdeithas yr Iaith wedi clywed bydd aelodau o'r Pwyllgor Materion Cymreig yn cyfarfod â'r Pwyllgor Cymhwysedd Deddfwriaethol Rhif 5 (iaith Gymraeg) ar Ddydd Llun, Mai 18fed.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Ers i'r Gorchymyn gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror, mae consensws gref wedi datblygu ymysg pleidiau

Cefnogaeth i ddyn a gafodd ei rwystro rhag siarad Cymraeg ym Morrisons, Caergybi

Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal piced Dydd Sadwrn tu allan i siop Morrisons yng Nghaergybi i alw am hawl i weithio drwy'r Gymraeg.