Ar drothwy cyfarfod rhwng Hywel Francis AS a Carwyn Jones AC yfory (21/07/09) i drafod y broses o drosglwyddo pwerau pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi pryderon a nodi eu rhwystredigaeth yngl?n â'r broses. Cred Cymdeithas yr Iaith, sydd wedi bod ynghlwm wrth y Gorchmynion Deddfwriaethol yn ymwneud â'r Iaith Gymraeg a Thai, fod y broses mor hir â chymhleth nes ei fod yn dieithrio pobl Cymru o'r drefn ddemocrataidd.Meddai Sioned Haf, Swyddog Lobio Cymdeithas yr Iaith:''Mae helynt y Gorchymyn Iaith wedi profi fod yr holl rym yn nwylo gwleidyddion ac nad yw llais pobol Cymru yn cyfrif. Rhoddwyd tystiolaeth ddiamheuol i Bwyllgorau yn y Cynulliad a San Steffan, gan bobl Cymru, o'r angen i drosglwyddo pwerau deddfu dros y Gymraeg yn llawn o Lundain i Gymru. Er hyn mae Peter Hain wedi rhoi mwy o rwystrau yn ffordd y Gorchymyn Iaith, ac mae'n ymddangos bod y Pwyllgor Materion Cymreig eisiau trafod y mater unwaith eto."
"Mae'r drefn yn un hynod o araf a llafurus beth bynnag, heb yr oedi pellach gan wleidyddion. Mae angen rhoi'r gallu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru greu Mesurau pwrpasol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau ieithyddol sy'n bodoli yng Nghymru, a hynny ar frys.''''Ni fydd unrhyw drafodaethau ac oedi pellach o gymorth o gwbl i Lywodraeth y Cynulliad wrth geisio penderfynu yn derfynol ar eiriad y Gorchymyn. Mae dwy flynedd o drafod yn hen ddigon, mae'n bryd i Lywodraeth y Cynulliad weithredu yn awr."Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn cwestiynu peth cynnwys adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig. Yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ddechrau'r mis, fe gyflwynodd Cymdeithas yr Iaith gais rhyddid gwybodaeth yn gofyn am weld unrhyw gyngor cyfreithiol a dderbyniodd y Pwyllgor cyn gwneud yr honiad y gallai'r Gorchymyn, neu fesur yn seiliedig arno, fod yn agored i sialens gyfreithiol. Yr ymateb a gafwyd oedd nad oedd dogfen ar gael yn cynnwys y wybodaeth honno!Gobaith Cymdeithas yr Iaith yw y bydd y cyfarfod yfory yn dod â'r problemau gyda'r broses o drafod Gorchmynion Cymhwyso Deddfwriaethol i'r amlwg, er mwyn i'r broses fynd rhagddi'n gyflymach, er mwyn gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru.