Deddf Iaith

Cyfarfod Cyffredinol a Rali Flynyddol - 'Chwyldro Newydd yn y Cymoedd'

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol a Rali Flynyddol y mudiad yng Nghanolfan Gymraeg Merthyr Tudful ar ddydd Sadwrn Hydref 24 gan gyhoeddi fod 'Chwyldro Newydd yn y Cymoedd'. Bydd y Cyfarfod Cyffredinol yn dechrau am 10.30 y bore a'r Rali Flynyddol am 2 y prynhawn.Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yr oeddem yn falch iawn felly o gael gwahoddiad gan ein haelodau ym Merthyr Tudful i gynnal Cyfarfod Cyffredinol 2009 yn y dref honno.

Cymdeithas yn 'Siomedig Iawn' ar ôl cyfarfod Peter Hain

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei bod yn siomedig iawn ar ôl cyfarfod Peter Hain heddiw.

Cyfarfod Peter Hain i drafod y Gorchymyn Iaith

Heddiw am 2 o'r gloch bydd tri aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod Peter Hain yng Nghaerdydd i drafod y Gorchymyn Iaith. Y tri ar ddirprwyaeth y Gymdeithas fydd Menna Machreth (Cadeirydd), Bethan Williams (Arweinydd Ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas) a Ffred Ffransis (Senedd Cymdeithas yr Iaith).Dywedodd Menna Machreth ar ran dirprwyaeth y Gymdeithas:"Byddwn yn pwysleisio fod y system o drin a thrafod y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar yr iaith Gymraeg wedi bod yn llafurus, hirwyntog a chymhleth.

Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn beirniadu Peter Hain am roi corfforaethau mawr cyn hawliau iaith pobl Cymru

PeterHainPA_228x348.jpgAr raglen Good Morning Wales bore yma dywedodd Peter Hain ei fod yn falch fod Llywodraeth y Cynulliad, Swyddfa Cymru a San Steffan wedi canfod 'common sense solution' ynghylch y Gorchymyn Iaith.

Hawliau iaith anghyflawn i bobl Cymru

Cyhoeddi'r Gorchymyn Iaith terfynol yn rhwystro'r ffordd at hawliauWedi cyhoeddi'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) terfynol ar yr iaith Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn siomedig nad yw Llywodraeth 'sosialaidd' wedi gweithredu o blaid pawb yng Nghymru sydd am ddefnyddio'r Gymraeg ac am weld y Gymraeg yn iaith normal yng Nghymru.Er bod tystiolaeth gref wedi ei roi gan Gymdeithas yr Iaith, Mudiadau Dathlu'r Gymraeg a Llywodraeth Catalonia, sydd â deddf iaith sy'n cynnwys y sector breifat, yn galw am i'r holl bwerau dros yr iaith Gymraeg i gael eu trosglwy

Osian Jones i gael ei garcharu ar Dachwedd 6ed

osian-pwllheli-carchar.jpgMi fydd Osian Jones - trefnydd Cymdeithas yr iaith yn y gogledd - yn mynd gerbron Llys Ynadon Pwllheli ar Dachwedd y 6ed am 9.30 y bore, lle bydd yn cychwyn ar ei gyfnod o 28 diwrnod yn y carchar am ei weithred yn erbyn cwmnïau Boots, Superdrug, Matalan a PC World.Gweithredodd Osian drwy beintio sloganau a gosod sticeri ar siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World, a oedd

Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn picedu cynhadledd Plaid Cymru

piced_plaid3.jpgMi fuodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn picedu cynhadledd Plaid Cymru yn "Venue Cymru" Llandudno heddiw, dydd Sadwrn Medi 12 fed.Buodd yr aelodau yn picedu oherwydd fod y Gorchymyn Iaith fel ac y mae yn rhwystro'r ffordd tuag at hawliau ieithyddol cyflawn, ac i ddangos eu rhwystredigaeth na fydd cwmniau megis Tesco, Boots a Superdrug nac unrhyw siop stryd fawr arall yn cael eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith.

Mis o Garchar i drefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd

Cafodd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd, ddedfryd o fis o garchar wedi ei ohirio gan Lys Ynadon Pwllheli heddiw, am greu difrod troseddol i eiddo siopau PC World a Matalan ym Mangor, wedi iddo godi sticeri a phosteri ar y siopau ym mis Mai, yn galw am Fesur Iaith cyflawn sy'n cynnwys y sector breifat, ac yn cyfathrebu'r neges fod y Gorchymyn Iaith fel y mae yn rhy gul, ac yn rhwystro ffordd pobl Cymru at eu hawliau i'r Gymraeg.

Eisteddfod Cymdeithas yr Iaith

Trafod ein Cymunedau Cymraeg a degau yn gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn y LlywodraethCafodd Cymdeithas yr Iaith wythnos fyrlymus arall yn herio'r Llywodraeth am y Gorchymyn Iaith ynghyd â thrafodaeth ddeinamig ar faes yr Eisteddfod ynghylch sut i greu cymuned Gymraeg gynaliadwy.1cyfarfodt-gen09.jpgCyfarfod 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy', Dydd Mercher Awst 5ed:Cafwyd ymateb da iawn

'Big Ben' yn cymryd rhan mewn Protest Iaith

protest-gen09.jpgDaeth dros 200 o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith i brotest ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala heddiw, lle cyflwynwyd ddeiseb brys wedi'i arwyddo gan gefnogwyr yn yr wyl. Byrdwn y neges oedd yr angen i brysuro gyda'r gwaith o drosglwyddo pwerau deddfu dros y Gymraeg i Gymru.