Deddf Iaith

Pump myfyriwr yn ymprydio dros ymgyrchydd

Mae pump myfyriwr prifysgol Aberystwyth yn ymprydio am 24 awr heddiw (Dydd Iau, 3ydd Rhagfyr) i ddangos cyd-gefnogaeth i ymgyrchydd a garcharwyd ar ôl iddo dargedu siopau mawrion yng ngogledd Cymru.Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i gyd-fynd â charchariad aelod a ymgyrchodd yn erbyn polisi iaith rhai o gwmnïau amlwg y stryd fawr.

Erthygl gan Osian Jones o'r Carchar yn y Western Mail

Gwir Neges Superdrug a Boots

PicedSuperdrug3.jpgFe fydd siopwyr Caerfyrddin yn derbyn taflenni yn datgelu gwir agwedd cwmni Superdrug at yr iaith Gymraeg heddiw 26/11.

Digwyddiadau i gefnogi Osian

Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi tu fas i Superdrug yng Nghaerfyrddin heddiw 26/11 am 4pm. Byddwn yn dosbarthu taflenni gyda'r geiriau: "Superdrug - Cwmni Harddwch ac iechyd gyda agwedd Salw ac afiach at yr iaith Gymraeg".Fe fydd aelodau o'r Gymdeithas yn picedi tu fas i siop Boots yn Llandysul dydd Llun 30ain o Dachwedd am 1pm gan ddosbarthu cardiau 'Mantais' Boots amgen am ddim tu allan i'r siop.

Cysylltu gyda Osian yn y carchar

Mae Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yn y gogledd, wedi cael ei garcharu am fis heddiw ar ôl safiad yn erbyn siopau mawrion yng ngogledd Cymru sydd yn gwrthod cynnig gwasanaethau sylfaenol yn y Gymraeg.Dyma gyfeiriad i chi ddanfon llythyr o gefnogaeth ato:Osian JonesPrison No.DX8265HM Prison Altcourse,Fazakerley,LiverpoolL97 LH.Ffôn: 0151 522 2000Ffacs: 0151 522 2121Yn anffodus, nid yw'r gwasanaeth danfon ebost at garcharor yn weithredol yn y carchar yma ar hyn o bryd.

Carchariad am fis i ymgyrchydd iaith

achos-osi-caernarfon.JPGMae ymgyrchydd iaith Gymraeg wedi mynd i'r carchar am fis heddiw (Dydd Mercher, Tachwedd 25) yn sgil gwrandawiad gerbron llys ynadon Caernarfon.Ym mis Ebrill 2008, protestiodd Osian Jones, o Ddyffryn Nantlle, yn erbyn rhai o gwmnïau amlwg y stryd fawr yng ngogledd Cymru, yn cynnwys Superdrug a Boots, er mwyn dangos nad oedd gwasanaethau Cymraeg digonol ganddynt.Roedd y weithred

Anrheg Nadolig Boots i siopwyr Bangor! ond yn y Gymraeg

Fe wnaeth siopwyr Bangor dderbyn anrheg Nadolig cynnar oddi wrth Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mangor Dydd Sadwrn, Tachwedd 14 wrth i dros 100 o brotestwyr ddosbarthu cardiau 'Mantais' Boots amgen am ddim yng nghanol y dre.Yn troi slogan Boots ar ei phen, roedd yr ysgrifen ar y cardiau yn darllen "there are no points whatsoever for using Welsh".

Gohirio Achos Osian - Cefnogwyr yn protestio tu allan i'r Llys!

OsLLysPwllheli2.jpgMae Ynadon Pwllheli wedi gohirio'r gwrandawiad am bythefnos tan 25 Tachwedd i Lys Ynadon Caernarfon.Mewn protest arhosodd Osian ac aelodau'r Gymdeithas tu fewn i adeilad y Llys am awr gan atal eu gweithgareddau, ac ymunodd 50 arall tu allan yn gweiddi 'Hawliau Iaith':Meddai Menna Machreth Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae'n greulon iawn bod yr Ynadon wedi gohirio'r amser am bythef

'Dylai fy Ngharchariad fod yn Ysgogiad i Eraill' medd Ymgyrchydd Iaith

carchar-hawliau-bach.jpgYfory, dydd Gwener Tachwedd y 6ed am 9.30 y bore bydd Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru yn cael ei garcharu am fis gan Lys Ynadon Pwllheli.

Mis o garchar am fynnu hawliau iaith

carchar-hawliau-bach.jpgAr ddydd Gwener y 6ed o Dachwedd am 9.30 y bore bydd Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd, yn ymddangos o flaen llys ynadon Pwllheli i dderbyn mis o garchar.Fe'i dedfrydwyd am weithredu yn erbyn siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World ym Mangor rai