Fe wnaeth siopwyr Bangor dderbyn anrheg Nadolig cynnar oddi wrth Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mangor Dydd Sadwrn, Tachwedd 14 wrth i dros 100 o brotestwyr ddosbarthu cardiau 'Mantais' Boots amgen am ddim yng nghanol y dre.Yn troi slogan Boots ar ei phen, roedd yr ysgrifen ar y cardiau yn darllen "there are no points whatsoever for using Welsh". Fe wnaeth Boots hefyd elwa o weithwyr newydd, wedi'u darparu gan y Gymdeithas, a oedd yn cynnig gwasanaeth Cymraeg i bobl yng nghanol y dre.Roedd y protestwyr yn cynnal rali i gefnogi Osian Jones sydd yn wynebu carchariad ar ôl cwyno am ddiffyg darpariaeth Cymraeg gan siopau yng ngogledd Cymru.
Wrth iddi annerch y brotest, dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Menna Machreth:"Yn anffodus, i Boots, does dim pwyntiau 'mantais' am ddefnyddio'r Gymraeg. Mae'r Gymdeithas wedi trio'u perswadio nhw i ddarparu gwasanaethau sylfaenol yn y Gymraeg, ond heb lwyddiant. Maent yn anwybyddu barn y cyhoedd sydd yn cefnogi gwasanaethau dwyieithog: mae 76% o'r cyhoedd yn cytuno bod deunydd marchnata a hysbysebion dwyieithog yn bwysig ac 81% yn credu bod hyfforddi staff i ddysgu Cymraeg yn bwysig hefyd.""Y cam olaf mewn unrhyw ymgyrch gan Gymdeithas yr Iaith yw troi at weithredu uniongyrchol. Trwy weithredu yn ddi-drais fel hyn, mae Osian yn dilyn enghraifft yr undebau llafar a mudiadau hawliau sifil yng Nghymru a thu hwnt. Mae ei safiad dewr yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Mae'r Llywodraeth wedi colli cyfle euraidd i sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg yn y sector breifat. Rydym wedi'n siomi gan yr ASau sydd wedi trio gwanhau'r ddeddfwriaeth newydd ar yr iaith Gymraeg. Mae'n amlwg i ni nad ydyn nhw o ddifri am y Gymraeg."Does dim un o'r busnesau y gwnaeth Osian ac eraill eu targedu yn cael eu crybwyll o gwbl yn y Gorchymyn Iaith ac mae hynny, meddai Cymdeithas yr Iaith, yn warthus.Medd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd:"Yr unig beth 'ryn ni'n gofyn i'r cwmnïau mawr ei wneud yw gadael i'r iaith Gymraeg fyw. Dim ond un neu ddwy siop y gwnes i ac aelodau eraill o Gymdeithas yr Iaith eu targedu - mae'r mwyafrif llethol o'r siopau ar y stryd fawr yn cynnig gwasanaeth arwynebol ar y gorau, gyda rhai arwyddion tocenistaidd yn unig. Dydy hynny ddim digon da, mae angen i'r Llywodraeth weithredu er mwyn sicrhau hawliau pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg yn y sector breifat.."Disgwylir y bydd Mr Jones, o Ddyffryn Nantlle, yn cael ei garcharu am fis ar ôl achos llys ar Dachwedd 25 o flaen Llys Ynadon Caernarfon ar y 25ain o Dachwedd.