'Dylai fy Ngharchariad fod yn Ysgogiad i Eraill' medd Ymgyrchydd Iaith

carchar-hawliau-bach.jpgYfory, dydd Gwener Tachwedd y 6ed am 9.30 y bore bydd Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru yn cael ei garcharu am fis gan Lys Ynadon Pwllheli. Mae'r ynadon eisoes wedi dweud wrtho mai carchariad sydd yn ei aros a hynny am iddo wrthod talu dirwyon am beintio sloganau ar rai o siopau'r Stryd Fawr fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Fesur iaith Cyflawn. Mae ganddo £1,000 o ddirwyon a chostau heb eu talu am iddo beintio sloganau ar siopau Superdrug, Matelan, Boots a PC World yn gynharach eleni.Osian fydd yr ail aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i gael ei garcharu eleni. Carcharwyd Ffred Ffransis yn ôl ym Mis Mehefin am wrthod talu dirwyon oedd hefyd yn deillio o'r ymgyrch Deddf Iaith.Gofynnwn i bob un ddangos cefnogaeth i Osian drwy fod yn bresennol yn ei achos llys ddydd Gwener y 6ed o Dachwedd ym Mhwllheli am 9.30. Mwy o wybodaeth am yr Achos Llys yma...

Dywedodd Osian Jones:"Mae'n ddiddorol fy mod i a Ffred wedi cael ein carcharu eleni am ein rhan yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith gynhwysfawr. Yr hyn sy'n ddiddorol yw fod 'troseddau' Ffred yn mynd yn ôl i fis Ionawr 2001. Mae hyn yn dangos fod hon wedi bod yn ymgyrch faith a chostus. Yr hyn sy'n drist yw fod y Gorchymyn Iaith sydd gennym yn dilyn yr holl ymgyrchu mor gwbwl annigonol gan nad yw yn rhoi'r hawliau angenrheidiol i bobl Cymru fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, nac yn ymestyn i'r sector breifat.""Er i ni ddadlau'n hachos yn gryf ger bron pwyllgorau yn y Cynulliad a'r Senedd yn Llundain daeth yn gwbwl amlwg i ni fod y broses ddeddfwriaethol yng Nghymru yn un flinderus a diffygiol ac na fydd dewis gennym ond parhau gyda'r ymgyrchu. Rwyf yn gobeithio y bydd fy ngharchariad yn ysbrydoliaeth i eraill weithredu dros y Gymraeg ac y gwelwn drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros ddeddfu a'r iaith Gymraeg i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyflawnder yn y dyfodol agos. Mae pobl Cymru wedi gorfod aros yn rhy hir am weld eu hawliau ieithyddol yn cael eu gwireddu. Yr ydym yn sicr yn haeddu rhywbeth gwell na'r Gorchymyn Iaith gynigir i ni ar hyn o bryd".