Deddf Iaith

Llu o Gymry enwog ac amlwg yn cefnogi datganoli grymoedd llawn i Gymru

hysbyseb-CYIG-bach.jpgBydd hysbyseb tudalen llawn yn hyrwyddo rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gaiff ei chynnal tu alla

Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi galwadau Cymdeithas yr Iaith

paul-davies1.jpgEr bod sylwadau negyddol wedi'u clywed gan un o aelodau o'r Ceidwadwyr yng nghyfarfod Pwyllgor sy'n craffu ar Orchymyn yr Iaith Gymraeg yn y Cynulliad mae llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg a'r iaith Gymraeg, Paul Davies AC, wedi datgan ei fod ef yn cytuno gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg y dylid datganoli'r holl bwerau dros y Gymraeg i'r Cynulliad yng Nghymru.Dywed Paul Davies AC:"Rwy'n cy

Gweithiwr yn cael ei rwystro rhag siarad Cymraeg yn Morrisons

cymraeg-morrisons.jpgMae wedi dod i sylw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod gweithiwr ym Morrisons Caergybi wedi cael ei atal rhag siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr gan Reolwr y siop.Cafodd Mr David Evans, a oedd yn gweithio yn y siop, ei rybuddio gan Reolwr Morrisons sawl gwaith na ddylai siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr.

Galw ar Alun Ffred Jones i fynnu bod pwerau llawn dros yr iaith Gymraeg yn dod i Gymru

posterrali.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu canlyniadau'r arolwg a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith heddiw, sy'n dangos pwysigrwydd yr iaith i dros 80% o bobol Cymru. Mae'r arolwg yn dangos y gefnogaeth enfawr i normaleiddio'r Gymraeg, a'r awydd i greu Cymru ddwyieithog.

LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn!

sticeri-caerdydd.jpgRhoddwyd sticeri 'LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn' ar ffenestri siopau cadwyn ar strydoedd drwy Gymru yn ystod y nos neithiwr (nos Iau, 23ain o Ebrill) er mwyn tynnu sylw nad yw'r cwmnioedd a dargedwyd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith Gymraeg (LCO).Bydd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, yn ymddangos eto o flaen Pwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith yr wythnos nesa,

Cwsmeriaid BT yn gorfod talu mwy am Wasanaeth Cymraeg

llun-senedd-310309.jpgTra bydd cyfarwyddwraig BT yng Nghymru yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad, am 9am ar ddydd Mawrth, Mawrth 31ain, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthdystio tu allan i adeilad y Senedd, i ddangos nad yw'r ddeddfwriaeth iaith bresennol yn ddigon da a'r angen am Orchymyn Iaith eang.

CBI yn rhwystro'r ffordd at Hawliau Iaith

dim-mynediad-cbi.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar CBI Cymru i roi'r gorau i'w hymdrech i rwystro'r ffordd i bobl Cymru gael hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd.

Datganolwch bwerau dros yr Iaith Gymraeg i bobl Cymru

san-steffan-230308.jpgFe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynd â neges glir i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn Llundain ddydd Llun nesaf, sef y dylid datganoli holl bwerau dros y Gymraeg o San Steffan i Gymru, heb unrhyw gyfyngiadau.

Cymdeithas yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor yn y Cynulliad

SeneddAm 9.30 dydd Mawrth Mawrth 17 fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth ar yr Iaith Gymraeg. Rhoddir y dystiolaeth ar ran y Gymdeithas gan Menna Machreth (Cadeirydd), Sioned Haf (Swyddog Ymgyrchoedd) a Sian Howys (Swyddog Polisi Deddf Iaith). Yn eu tystiolaeth fe fydd y Gymdeithas yn pwysleisio'r angen fod yn rhaid i'r Gymraeg gael statws swyddogol yng Nghymru.

Gorchymyn Iaith - Cyfle i Fynnu'n Hawliau!

leanne-cy-caerdydd.jpgYn dilyn cyhoeddiad y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.