Deddf Iaith

Gwrthryfel yn erbyn Mesur Iaith y Llywodraeth yn yr Eisteddfod

Bydd ymgyrchwyr Cymraeg yn protestio ar Faes yr Eisteddfod heddiw (3pm, Dydd Mercher, 4ydd Awst) oherwydd gwendidau yn y ddeddfwriaeth arfaethedig ar y Gymraeg, gan alw am wrthryfel gan wleidyddion yn dilyn methiant y Llywodraeth i gadw at ei haddewidion.Ychydig wythnosau'n ôl, galwodd pwyllgor trawsbleidiol am newidiadau mawr i gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad oherwydd diffyg egwyddorion yn y drafft.

Adroddiad Mesur Iaith wedi 'dinistrio dadleuon' y Llywodraeth

menna-statws.jpgMae grwp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad wedi cytuno bod angen cryfhau'r Mesur Iaith Gymraeg yn sylweddol mewn adroddiad heddiw.Yn ei adroddiad, mae'r pwyllgor deddfu yn datgan bod angen cynnwys datganiad 'clir a diamwys' yn sefydlu statws swyddogol i'r Gymraeg; Comisiynydd mwy annibynnol oddi wrth y Llywodraeth; a rhagor o rym i unigolion yn y Mesur.Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymr

Cyrff gwrth-Gymraeg yn elwa o'r Mesur Iaith - Rali Porthmadog

Bydd sefydliadau gwrth-Gymraeg yng ngogledd Cymru yn elwa o gynlluniau'r Llywodraeth i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, yn ôl siaradwyr mewn rali ym Mhorthmadog heddiw (Dydd Sadwrn, 19eg Mehefin).Bydd beirniadaeth lem o fethiannau ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru, Betsi Cadwaladr, i ddarparu gwasanaeth Cymraeg - nid oes un o'r cyfarwyddwyr y corff yn siarad Cymraeg. Mewn adroddiad diweddar gan bwyllgor Ewropeaidd o arbenigwyr, beirniadwyd y GIG yng Nghymru am fethu darparu gwasanaethau Gymraeg digonol.Bydd y bardd Twm Morys a'r canwr Ceri Cunnington hefyd yn annerch y protest.

Mudiadau yn gofyn i'r llywodraeth newid y Mesur Iaith

Mae pedwar ar ddeg o grwpiau iaith wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am newidiadau i'w chynlluniau am Fesur Iaith newydd. Mewn llythyr agored at y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, mae'r mudiadau - gan gynnwys yr undeb athrawon UCAC, Chyfeillion y Ddaear ac arbennigwr Iaith Yr Athro Colin Williams - yn dweud:"Mae'r iaith Gymraeg yn wynebu bygythiadau o bob tu: toriadau yng nghyllideb S4C, y Cynulliad yn torri'r cofnod dwyieithog, a dyfodol addysg Gymraeg yn y brifddinas.

Deddf Iaith Gymraeg wan - Anfona neges at y gwleidyddion nawr!

Rai wythnosau yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru drafft o'r Mesur Iaith maen nhw'n debygol o'i basio.

"Mae ymgyrchu yn gallu newid y sefyllfa" - Lawnsiad llyfr protest

Llun Gair I Gell.jpgBydd llyfr newydd sydd yn esbonio hanes degawd o ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddechrau mileniwm newydd yn cael ei lansio yng Nghaernarfon heddiw.Sbardun cyhoeddi'r llyfr hwn oedd rhannu'r rhai o'r cannoedd o lythyrau a chardiau a dderbyniodd Osian Jones tra yn HMP Altcourse yn ystod Rhagfyr 2009 am ei ran yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.Bydd y llyfr ar werth am £4.95 o siopau llyfr Cy

Croesawu llythyr cyfreithwyr am fesur iaith cryfach

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu llythyr oddi wrth dros ddwsin o gyfreithwyr yn galw am fesur iaith cryfach heddiw (Dydd Iau, 18 Mawrth).Dyweda'r cyfreithwyr yn eu llythyr agored: "Credwn fod angen datganiad clir a diamwys mewn deddf gwlad fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru er mwyn gwireddu hynny, a hyd yn hyn, ni chafwyd datganiad o'r fath."Ychwanega'r cyfreithwyr: "Nid yw gosod safonau ..., er gwaetha'r ffaith y bydd eu torri yn medru arwain at gosbau, gyfystyr â sefydlu hawliau i unigolion.""Yn ein barn ni, i raddau'n unig y mae'r Mesur hwn yn

Llywodraeth yn 'camarwain y cyhoedd' ar y mesur iaith, cwyn swyddogol Cymdeithas

Mae Llywodraeth Cymru 'wedi torri ei haddewidion' ac yn trio 'camarwain y cyhoedd' gyda'i mesur iaith Gymraeg, yn ôl cwyn swyddogol gan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i'r Prif Weinidog.Mewn llythyr at Carwyn Jones, bydd yr ymgyrchwyr yn honni fod datganiadau gan y llywodraeth am y mesur iaith ddydd Iau diwethaf yn 'gamarweiniol tu hwnt'.

Debbie's Coming to Town! Caerfyrddin

Fe fydd Debbie (ar ran y cwmni Debenhams) yn dod i Gaerfyrddin yfory, dydd Mercher 17eg o Chwefror, cyn agoriad swyddogol ei siop fawr crand yn y pasg.

'Dyfodol y Gymraeg yn y fantol' - rhyddhau ymgyrchydd iaith

Bydd ymgyrchydd iaith yn cael ei rhyddhau o garchar yn Lerpwl heddiw (Dydd Mawrth, Rhagfyr 8) ar ôl iddo brotestio yn erbyn diffyg gwasanaethau Cymraeg siopau mawrion y stryd fawr yng ngogledd Cymru.Cyn iddo adael y carchar, fe rybuddiodd Mr Jones y 'gallai'r degawd nesaf gweld dinistriad y Gymraeg fel iaith gymunedol' os nad oedd newidiadau mawr yn y gyfraith i 'adael yr iaith fyw'.