Croesawu llythyr cyfreithwyr am fesur iaith cryfach

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu llythyr oddi wrth dros ddwsin o gyfreithwyr yn galw am fesur iaith cryfach heddiw (Dydd Iau, 18 Mawrth).Dyweda'r cyfreithwyr yn eu llythyr agored: "Credwn fod angen datganiad clir a diamwys mewn deddf gwlad fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru er mwyn gwireddu hynny, a hyd yn hyn, ni chafwyd datganiad o'r fath."Ychwanega'r cyfreithwyr: "Nid yw gosod safonau ..., er gwaetha'r ffaith y bydd eu torri yn medru arwain at gosbau, gyfystyr â sefydlu hawliau i unigolion.""Yn ein barn ni, i raddau'n unig y mae'r Mesur hwn yn cyflawni'r amcanion a amlinellwyd yng nghytundeb Cymru'n Un. Ofnwn fod y Mesur yn greadur llai effeithiol nag y gallasai fod i ddylanwadu'n gadarnhaol ar yr hinsawdd ieithyddol yng Nghymru."Wrth ymateb i'r llythyr, dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Rydym yn croesawu'r ffaith fod cyfreithwyr a bargyfreithwyr mor flaenllaw ac uchel eu parch yng Nghymru wedi dod ymlaen mewn modd mor gyhoeddus, yn galw ar i'r mesur iaith gael ei gryfhau'n sylweddol. Erbyn hyn, mae yna gonsensws ymysg arbenigwyr ieithyddol ac arbenigwyr cyfreithiol nad yw'r mesur yn ei ffurf bresennol yn gwireddu addewidion y Llywodraeth."Mae'n hynod arwyddocaol fod arbenigwyr ym maes y gyfraith yn codi'r cwestiwn am ddiffyg datganiad di-amwys sy'n rhoi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Mae cynnyws y llythyr yn profi hefyd nad yw'r mesur yn sefydlu hawliau Cymraeg i unigolion.""Mae'r llythyr hwn yn cael ei gyhoeddi ar gyfnod holl bwysig, ac mae'n arwydd o'r ffaith y gallai Llywodraeth Cymru wneud gymaint yn fwy i gryfhau cynnwys y mesur er lles pawb o bobl Cymru. Fe fydd y llythyr hwn yn rhoi llawer o bwysau arnynt i gwestiynu yr addewidion y maent yn honni eu bod wedi eu gwireddu. Bydd rhaid aros i weld a oes gan y weinyddiaeth Llafur-Plaid Cymru yr ewyllys gwleidyddol i'w gryfhau."Cyfreithwyr yn galw am Fesur Iaith cryfach, Golwg360, 18/03/10Llythyr yn beirniadu mesur iaith, BBC Cymru, 18/03/10Legal figures warn plans fail to guarantee language rights, Western Mail, 18/03/10Lawyers seek to expose flaws in new Welsh language laws, Daily Post, 18/03/10Pwyswch yma i ddarllen y llythyr yn llawn (PDF)deiseb.gif