Mae pedwar ar ddeg o grwpiau iaith wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am newidiadau i'w chynlluniau am Fesur Iaith newydd. Mewn llythyr agored at y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, mae'r mudiadau - gan gynnwys yr undeb athrawon UCAC, Chyfeillion y Ddaear ac arbennigwr Iaith Yr Athro Colin Williams - yn dweud:"Mae'r iaith Gymraeg yn wynebu bygythiadau o bob tu: toriadau yng nghyllideb S4C, y Cynulliad yn torri'r cofnod dwyieithog, a dyfodol addysg Gymraeg yn y brifddinas. Mae diffyg hawliau ieithyddol a statws swyddogol i'r iaith Gymraeg wrth wraidd y bygythiadau.""Rydym yn croesawu ymdrechion y Llywodraeth i ddatblygu deddfwriaeth i gadarnhau sefyllfa'r Gymraeg. Fodd bynnag, ers cyhoeddi'r Mesur Iaith Gymraeg drafft eleni mae mudiadau, cyfreithwyr ac arbenigwyr, wedi bod yn unfryd eu barn nad yw'r Mesur ar ei ffurf bresennol yn cyflawni addewidion y Llywodraeth."
"...rydym am weld datganiad diamwys fod yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, fel nas cafwyd mewn deddfwriaeth flaenorol. Dyma'r cyfle i wneud hyn.""Mae tystiolaeth yn dangos y byddai hawliau ieithyddol, statws swyddogol a Chomisiynydd Iaith annibynnol yn gwella gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg i'n haelodau ar draws Cymru. Dyma'r gwelliannau yr hoffem i chi fel Gweinidog eu cyflwyno i Fesur yr Iaith Gymraeg."Yn siarad am y llythyr, fe ddywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Merched y Wawr:"Rydym mewn cyfnod holl bwysig, ac mae'r llythyr hwn yn arwydd o'r ffaith y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i gryfhau cynnwys y mesur er lles pawb o bobl Cymru. Fe fydd y llythyr hwn yn ychwanegu at y pwysau arnynt i wireddu eu haddewidion. Bydd rhaid aros i weld a oes gan y weinyddiaeth yr ewyllys gwleidyddol i'w gryfhau neu beidio."Ychwanegodd yr awdur ac ymgyrchydd iaith Catrin Dafydd:"Rwy'n croesawu'r ffaith fod y llythyr yma yn ychwanegu at y galwadau oddi wrth gyfreithwyr a bargyfreithwyr mor flaenllaw ac uchel eu parch yng Nghymru sydd o blaid cryfhau'r mesur iaith yn sylweddol. Erbyn hyn, mae yna gonsensws ymysg mudiadau, arbenigwyr ieithyddol ac arbenigwyr cyfreithiol nad yw'r mesur yn ei ffurf bresennol yn gwireddu addewidion y Llywodraeth.""Mae'n hynod arwyddocaol fod cymaint o fudiadau, yn ogystal ag arbenigwyr ym maes y gyfraith, yn codi'r cwestiwn am ddiffyg datganiad diamwys sy'n rhoi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Mae'n gwbl glir hefyd nad yw'r mesur arfaethedig yn sefydlu hawliau Cymraeg i unigolion."Grwpiau iaith yn gofyn am Fesur cryfach, Golwg360, 10/06/2010Iaith: 'Angen datganiad diamwys', BBC Cymru, 10/06/2010Groups' open letter on 'threats' to Welsh language, BBC Wales, 10/06/2010Plea made for changes to Welsh language law proposals, Walesonline, 10/06/2010Measure for Measure, Blog Betsan Powys BBC, 10/06/2010