Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar CBI Cymru i roi'r gorau i'w hymdrech i rwystro'r ffordd i bobl Cymru gael hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd. Yn dilyn sylwadau negyddol gan y CBI i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan yngl?n â datganoli pwerau i ddeddfu ym maes y Gymraeg heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal gwrthdystiad tu allan i'w swyddfeydd ym Mae Caerdydd yfory (Mawrth 24/03).Meddai Sioned Haf, Swyddog Ymgyrchoedd y Gymdeithas:"Mae'n hen bryd i'r ddadl hen ffasiwn yma sydd yn cael ei defnyddio gan y CBI dro ar ôl tro, yn erbyn deddfu dros y Gymraeg, gael ei chwalu unwaith ac am byth. Mae dros bymtheg mlynedd ers deddfu yn y maes, felly mae'n hollol naturiol ein bod yn diwygio deddfwriaeth i gyfateb a natur a hinsawdd fodern ieithyddol Cymru. Mae'r sector gyhoeddus wedi crebachu'n anhygoel yn ystod y cyfnod yma, a'r sector breifat wedi ehangu. Rhaid i ddeddfwriaeth adlewyrchu hynny, neu byddwn yn cael ein gadael y tu ôl i ddatblygiadau cyffrous sydd yn cael ei wneud yng ngwledydd tu hwnt i Ynysoedd Prydain yn y maes ieithyddol. Mae cyfraniad negyddol y CBI yng Nghymru yn destun embaras i'r holl drafodaeth."
Mae'r Gymdeithas wrthi yn ymgyrchu, a lobio i ymestyn sgôp Gorchymyn yr Iaith Gymraeg er mwyn sicrhau bod gan y Cynulliad y pwerau i ddeddfu'n gadarnhaol ym maes y Gymraeg. Dylai fod gan bawb yng Nghymru'r hawl i ddysgu, gweld, clywed a defnyddio'r Gymraeg yn naturiol, heb unrhyw rwystrau yn eu bywydau pob dydd.Ychwanegodd Sioned Haf:"Mae'n hollol amlwg i unrhyw un sydd wedi ceisio cael gwasanaeth Cymraeg nad yw'r ddarpariaeth bresennol yn ddigonol. Mae'n gam naturiol ymlaen felly fod y Gorchymyn Iaith yn eang ac yn ein caniatáu ni yng Nghymru i fynd i'r afael â diffygion y ddeddf bresennol. Bydd unrhyw beth llai yn mynd yn groes i addewidion a roddwyd gan y Llywodraeth Glymblaid.""Nid dyma'r tro cyntaf i'r CBI fynd yn groes i'r hyn sy'n deg i bobl Cymru o ran eu hawliau. Pan gafwyd y drafodaeth yngl?n ag isafswm cyflog, roedd y CBI yn honni y byddai hyn yn golygu colli miloedd o swyddi. Roeddynt yn anghywir yn yr achos yna, ac maent hefyd yn anghywir i ddadlau heddiw y byddai deddfwriaeth newydd ar yr iaith Gymraeg yn golygu colli swyddi yng Nghymru. Rydym ni'n credu mae'r gwrthwyneb sy'n wir, ac y gall deddfwriaeth ieithyddol newydd gynyddu rhagolygon swyddi yng Nghymru trwy ei wneud yn ofynnol i gwmniau sefydlu canolfannau yng Nghymru i drefnu eu bod yn cydymffurfio a deddfwriaeth."Tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan (PDF - Saesneg)Tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith i Bwyllgor Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (PDF - Cymraeg)Tystiolaeth Atodol - Negeseuon gan aelodau Cymdeithas yr Iaith (pdf)