Er bod sylwadau negyddol wedi'u clywed gan un o aelodau o'r Ceidwadwyr yng nghyfarfod Pwyllgor sy'n craffu ar Orchymyn yr Iaith Gymraeg yn y Cynulliad mae llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg a'r iaith Gymraeg, Paul Davies AC, wedi datgan ei fod ef yn cytuno gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg y dylid datganoli'r holl bwerau dros y Gymraeg i'r Cynulliad yng Nghymru.Dywed Paul Davies AC:"Rwy'n cytuno gyda Chymdeithas yr Iaith mae yng Nghymru y dylid creu deddfwriaeth ar yr Iaith Gymraeg, ac yn cefnogi'r alwad fod angen ehangu sgôp y Gorchymyn Iaith, a chael gwared ar unrhyw gyfyngiadau er mwyn datganoli pwerau llawn ym maes y Gymraeg i Gynulliad Cymru. Mater i'r dyfodol yw trafod cynnwys unrhyw Fesur Iaith, y ddadl ar hyn o bryd ydy ble y dylid creu deddfwriaeth ar yr Iaith Gymraeg, a barn Ceidwadwyr Cymru yw mae yma yng Nghymru y dylid gwneud hynny, a dyna pam yr ydym yn cefnogi'r alwad i ddatganoli'r grymoedd yn llawn o San Steffan i Gynulliad Cymru."
Daw hyn lai na phythefnos cyn i Gymdeithas yr Iaith gynnal rali tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd ar Fai 16eg am 2yp. Yn siarad bydd Hywel Teifi Edwards, Adam Price, Angharad Mair a Catrin Dafydd.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Gr?p Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:"Mae'n wych fod yr wrthblaid yn credu fod angen ehangu sgôp y Gorchymyn. Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu am sawl blwyddyn am ddeddf iaith ac mae'n hymgyrch ni wedi cymryd trywydd newydd ers cyhoeddi'r Gorchymyn Iaith. Gobeithio gall y Ceidwadwyr roi pwysau pellach ar y glymblaid a phwyso am drosglwyddo'r pwerau deddfu llawn dros y Gymraeg i Gymru."