Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu canlyniadau'r arolwg a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith heddiw, sy'n dangos pwysigrwydd yr iaith i dros 80% o bobol Cymru. Mae'r arolwg yn dangos y gefnogaeth enfawr i normaleiddio'r Gymraeg, a'r awydd i greu Cymru ddwyieithog. Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae canlyniadau'r arolwg hon yn dystiolaeth bellach o'r dyhead ymysg dinasyddion Cymru, i fod yn wlad wirioneddol ddwyieithog. Rhaid cael Mesur Iaith cyflawn sy'n cynnwys y sector breifat yn ei chyfanrwydd er mwyn gwireddu hyn. Cyn i'r Cynulliad fedru creu deddfwriaeth o'r fath, rhaid ehangu sgôp y Gorchymyn Iaith er mwyn datganoli'r pwerau'n llawn o San Steffan i Gymru. Mae degawdau o geisio annog y sector breifat i ddefnyddio'r Gymraeg yn wirfoddol wedi methu'n llwyr, felly rhaid deddfu i roi hawl i bobl Cymru ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, gan gynnwys y byd busnes."
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw reidrwydd ar y sector breifat, gan gynnwys y busnesau enfawr traws-genedlaethol i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Ychwanegodd Menna:"Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth wrth roi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig, fynnu fod yr holl bwerau dros y Gymraeg i symud o San Steffan i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rhaid iddo brofi ei fod yn gwrando ar lais pobl Cymru, nid ildio i lobïwyr y busnesau ym Mae Caerdydd sy'n gwrthwynebu sefydlu hawliau i'r Gymraeg yng Nghymru. Os na gaiff y Cynulliad y pwerau llawn, fe gaiff ein hawliau ni eu rhwystro."Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn paratoi at Rali 'Hawl i Fesur Iaith Cyflawn: Pwerau Llawn dros y Gymraeg i Gymru' a fydd yn cael ei gynnal tu allan i adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd am 2pm ar 16eg o Fai. Yn siarad bydd Adam Price AS, Hywel Teifi Edwards, Catrin Dafydd ac Angharad Mair. Byddant yn galw ar yr holl bwerau dros y Gymraeg i ddod i Gymru er mwyn creu Mesur Iaith Cyflawn.