Cysylltu gyda Osian yn y carchar

Mae Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yn y gogledd, wedi cael ei garcharu am fis heddiw ar ôl safiad yn erbyn siopau mawrion yng ngogledd Cymru sydd yn gwrthod cynnig gwasanaethau sylfaenol yn y Gymraeg.Dyma gyfeiriad i chi ddanfon llythyr o gefnogaeth ato:Osian JonesPrison No.DX8265HM Prison Altcourse,Fazakerley,LiverpoolL97 LH.Ffôn: 0151 522 2000Ffacs: 0151 522 2121Yn anffodus, nid yw'r gwasanaeth danfon ebost at garcharor yn weithredol yn y carchar yma ar hyn o bryd.

Mae'r hanes llawn ar gael yma.Bydd llu o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod y bythefnos nesaf mewn cefnogaeth i Osian, bydd y manylion yn cael eu nodi yma yn y man.Pwyswch yma i weld fideo gwych gan Lleucu Meinir yn dilyn yr achos gwreiddiol ym Mhwllheli.Os nad ydych chi'n aelod o Gymdeithas yr Iaith, gallwch gefnogi safiad Osian trwy ymaelodi arlein yma - neu lawrlwytho'r ffurflen a'i ddanfon yn y post.Diolch am eich cefnogaeth.