Gohirio Achos Osian - Cefnogwyr yn protestio tu allan i'r Llys!

OsLLysPwllheli2.jpgMae Ynadon Pwllheli wedi gohirio'r gwrandawiad am bythefnos tan 25 Tachwedd i Lys Ynadon Caernarfon.Mewn protest arhosodd Osian ac aelodau'r Gymdeithas tu fewn i adeilad y Llys am awr gan atal eu gweithgareddau, ac ymunodd 50 arall tu allan yn gweiddi 'Hawliau Iaith':Meddai Menna Machreth Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae'n greulon iawn bod yr Ynadon wedi gohirio'r amser am bythefnos eto, er eu bod eisoes wedi penderfynu ar y ddedfryd o garchar.""Eu hesgus yw eu bod am gysylltu a chyflogwyr Osian, ond ni Cymdeithas yr Iaith yw ei gyflogwyr, ac wrth gwrs ni fyddwn ni'n tynnu unrhyw ddirwy o'i gyflog. Byddwn ni i gyd yn ôl yng Nghaernarfon mewn pythefnos."Stori yn y Daily Post

Pwysa yma i ddarllen y cefndir...OsLLysPwllheli1.jpgOsLLysPwllheli3.jpg