Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn picedu cynhadledd Plaid Cymru

piced_plaid3.jpgMi fuodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn picedu cynhadledd Plaid Cymru yn "Venue Cymru" Llandudno heddiw, dydd Sadwrn Medi 12 fed.Buodd yr aelodau yn picedu oherwydd fod y Gorchymyn Iaith fel ac y mae yn rhwystro'r ffordd tuag at hawliau ieithyddol cyflawn, ac i ddangos eu rhwystredigaeth na fydd cwmniau megis Tesco, Boots a Superdrug nac unrhyw siop stryd fawr arall yn cael eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith.

Dywed Osian Jones, trefnydd y Gymdeithas yn y gogledd."Rydym yn siomedig gyda'r hyn sy'n cael ei gynnig yn y Gorchymyn Iaith gan y Gweinidog Treftadaeth ar hyn o bryd. Mae Alun Ffred Jones yn deall yn iawn sefyllfa fregus yr iaith Gymraeg, ac felly mae cyfrifoldeb mawr arno i weithredu'n bositif o blaid y Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynegi pryder gwirioneddol a yw Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud digon i ymestyn rhychwant y Gorchymyn Iaith i gynnwys mwy o'r sector preifat. Yr her iddo yw deddfu er mwyn gwneud gwahaniaeth fel y mae deddfu wedi gwneud gwahaniaeth mewn meysydd eraill o anghydraddoldeb.""Cred aelodau Cymdeithas yr Iaith bod y Gorchymyn Iaith presennol yn rhy gul a gwan. Mae'r Gymdeithas yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i fynnu trosglwyddo'r pwerau i gyd dros y Gymraeg i Gymru cyn yr Etholiad nesaf er mwyn sicrhau deddfwriaeth gref a pherthnasol fydd yn sefydlu statws pendant i'r Gymraeg fel priod iaith Cymru ynghyd a hawliau amlwg i bobl Cymru fedru defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd, a dyna pam felly ein bod ni yma heddiw yn picedu cynhadledd Plaid Cymru"Ychwanegodd Glyn Jones, Cadeirydd Rhanbarth Clwyd."Mae perygl mawr bod y Gorchymyn Iaith yn rhwystro ffordd pobl Cymru at eu hawliau i'r Gymraeg. Rhaid i'r Gweinidog gryfhau ac ehangu'r LCO ar frys er mwyn dangos ei fod o ddifrif am y Gymraeg sicrhau cyfiawnder i'r Gymraeg."piced_plaid2.jpgpiced_plaid1.jpg