Rali Fawr mewn cyfnod allweddol yn y broses LCO

Bydd yr ymgyrch i ehangu sgôp y Gorchymyn Iaith (LCO) yn dod i'w benllanw Ddydd Sadwrn Mai 16eg pan fydd Rali Fawr yn cael ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am 2pm tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd.Caiff y Rali ei gynnal ar adeg tyngedfennol oherwydd mae Cymdeithas yr Iaith wedi clywed bydd aelodau o'r Pwyllgor Materion Cymreig yn cyfarfod â'r Pwyllgor Cymhwysedd Deddfwriaethol Rhif 5 (iaith Gymraeg) ar Ddydd Llun, Mai 18fed.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Ers i'r Gorchymyn gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror, mae consensws gref wedi datblygu ymysg pleidiau gwleidyddol y Cynulliad a'r gymdeithas ehangach, fod angen i'r holl bwerau dros y Gymraeg gael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn hytrach na bodloni ar y Gorchymyn fel y mae'n sefyll ar hyn o bryd.""Os na fydd yr holl bwerau yn cael eu trosglwyddo, yna bydd San Steffan yn rhwystro'r ffordd i'r Gymraeg yng Nghymru drwy rwystro y Cynulliad rhag creu Mesur Iaith Cyflawn."Y siaradwyr yn y Rali fydd Adam Price AS, Hywel Teifi Edwards, Angharad Mair (Wedi 7) a Catrin Dafydd (awdures).

Mynegwyd cefnogaeth gref gan nifer o bobl a noddodd hysbyseb y Rali yn y wasg yr wythnos ddiwethaf.Ychwanegodd Menna Machreth:"Rydym yn annog pawb sy'n cefnogi ein galwadau i fynychu'r Rali. Bobl Cymru ddylai fod â'r hawl i benderfynu ar fesur iaith Gymraeg. Mae Prydain ar ei hôl hi o ran y drafodaeth am hawliau ieithyddol felly mae cyfle gan Gymru lunio deddf flaengar i greu sefyllfa mwy cyfartal i'r iaith Gymraeg yng Nghymru."Bydd adroddiad y Pwyllgor Craffu yn cael ei gyflwyno i'r Gweinidog treftadaeth ar Fehefin y 5ed.