Rali Genedlaethol Dathlu'r Gymraeg

Rali Dathlu'r GymraegDaeth dros 300 o bobl i Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd y tu allan i adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd Dydd Sadwrn 23ain Chwefror. Bwriad y Rali oedd cadw'r pwysau ar y llywodraeth i sicrhau Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr ar ôl gweld y llywodraeth yn torri dau o addewidion Cymru'n Un yn ystod y misoedd diwethaf.

Rhai wythnosau yn ôl, gwelwyd Gweinidog Treftadaeth y Llywodraeth yn datgan mai dim ond £200,000 gaiff ei roi i'r wasg Gymraeg, swm hollol annigonol ar gyfer sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Ym mis Tachwedd llynedd, bu protestio tu allan i adeilad y Senedd yn galw am gyllid digonol i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Roedd angen cyllid o £12 miliwn y flwyddyn, ond mae'r Llywodraeth wedi neilltuo £4.3 miliwn yn unig dros dair blynedd.Meddai Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:“Mae'r Rali wedi ei drefnu yn ystod cyfnod o ddiffyg ffydd yn Llywodraeth Glymblaid y Cynulliad. Yn y ddogfen Cymru'n Un, maent yn datgan yn glir eu bod am ymrwymo i sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg, a sefydlu Coleg Ffederal er mwyn sicrhau darpariaeth Cymraeg yn ein Prifysgolion. Nid yw'r Llywodraeth wedi sicrhau un o'r amcanion yma. Maent ond wedi darparu lleiafswm annigonol o arian tuag at sefydlu'r amcanion yma. Nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod y Llywodraeth glymblaid yma yn llwyddiannus o ran cyflawni ei strategaeth. Mi fydd y rali tu allan i'r Senedd yn symbol o ddadrith y Cymry â'r sefyllfa bresennol, ac yn ategu'r alwad fod rhaid i'r Llywodraeth gadw at yr hyn a addawyd yn Nogfen Cymru'n Un.”Yn cefnogi'r rali, roedd cynrychiolwyr a chefnogwyr 13 o fudiadau sy'n rhan o 'Mudiadau Dathlu'r Gymraeg' - grŵp ymbarél a ffurfiwyd i alw am hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg, a Chomisiynydd dros yr iaith Gymraeg. Roedd mur graffiti gan yr arlunydd Bryce Davies yn rhan o'r rali tu allan i'r Senedd, ac roedd modd i'r mynychwyr ei arwyddo. Mi fydd y mur yn teithio o gwmpas Cymru yn ystod y flwyddyn a bydd modd i bobl drwy Gymru ei arwyddo.Meddai Sioned Haf, Swyddog Ymgyrchoedd y Gymdeithas:“Roedd y rali yn gyfle i bawb sydd wedi'u dadrithio gan ymdrechion seithug y Llywodraeth i ymrwymo'n ddifrifol i wneud newid ym maes y Gymraeg, i ddod a dangos cefnogaeth. Roedd siaradwyr, cerddoriaeth fyw, stondinau a DJs. Roedd yn ddathliad lliwgar a chadarnhaol, sy'n hollol wahanol i'r hyn sydd yn digwydd o fewn muriau'r Senedd ar hyn o bryd.”Yn siarad yr oedd Owen John Thomas, cyn-aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol, Hywel James, Cyfreithiwr o Gaerdydd, Catrin Dafydd, cynrychiolydd y tri mudiad ar ddeg ac aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.ralidathlu5.jpgralidathlu4.jpgralidathlu2.jpgralidathlu1.jpgralidathlu3.jpg