Ymateb i Arolwg Dragon's Eye - Yr Angen am Ddeddfwriaeth Newydd

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Wrth ymateb i ganlyniadau arolwg diweddar gan raglen BBC Dragon's Eye a oedd yn honni bod nifer isel iawn o Gymry Cymraeg yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg y sectorau preifat a chyhoeddus, mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod hyn yn brawf pendant o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd. Maent yn dadlau bod gwasanaethau Cymraeg tocenistig rhai cwmnïau a sefydliadau, fel y rhai a enwir yn yr arolwg, yn golygu ei bod yn aml yn haws i dderbyn y gwasanaethau Saesneg na mynnu gwasanaeth Cymraeg.

Dywedodd y Swyddog Ymgyrchoedd Cenedlaethol, Sioned Haf,"Y rheswm pam nad yw pobl yn defnyddio unrhyw wasanaethau Cymraeg sydd ar gael yw bod y gwasanaethau ar draws y sector breifat yn ddarniog ac anwadal, ac mae disgwyliadau pobl Cymru o'r hyn sydd ar gael iddynt yn eu hiaith yn ofnadwy o isel. Pe bai Deddf Iaith Newydd yn sicrhau bod gwasanaethau o safon uchel, o'r un safon ac yr un mor hygyrch a gwasanaethau trwy gyfrwng y Saesneg, yna byddai'r ffigyrau yma yn codi yn sylweddol.""Yn aml iawn un siaradwr Cymraeg sydd gan y cwmnïau yma yn eu swyddfeydd i ateb eich galwad, os yw'n digwydd bod i ffwrdd, neu ddim yn arbenigo yn eich maes, yna does gennych chi ddim gwasanaeth cyfrwng Cymraeg. Mae pobl felly yn derbyn y gwasanaeth Saesneg, sydd yn llai o drafferth."Dywedodd Hywel Griffiths, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r broblem yn deillio o'r ffaith bod yn rhaid i bobl ddewis derbyn gwasanaeth Cymraeg fel rhyw fath o opsiwn ychwanegol, yn hytrach na bod y gwasanaeth Cymraeg yn cael ei gynnig fel mater o hawl sylfaenol. Mae 1% yn gofyn am wasanaeth Cymraeg y Principality er enghraifft, ond does dim rhaid i rywun sydd yn siarad Saesneg ofyn am wasanaeth Saesneg o gwbwl. Mae'r hyn sydd yn cael ei awgrymu yn yr arolwg gyfystyr a siop yn gosod teganau ar silff uchel tu ôl i gownter mewn ystafell wedi'i chloi, ac yna cwyno bod gwerthiant teganau yn isel.""Mae haeriad y CBI bod busnesau yn cael eu gyrru gan bwerau cwsmeriaid yn unig yn anghywir - mae mater o hawliau eraill fel isafswm cyflog a'r hawl i weithwyr ymuno ag undeb yn hawliau sylfaenol sydd yn cael eu darparu ganewyllys wleidyddol. Dylai'r hawl i dderbyn gwasanaethau Cymraeg gael ei thrin yn union yr un modd"Bydd nifer o gynigion yn ymwneud â Deddf Iaith Newydd, gan gynnwys galwadau ar y sector breifat, yn cael eu trafod yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am 10 o'r gloch yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, dydd Sadwrn yr 2il o Chwefror.