Mwy o reswm i beidio...

Archfarchnad MorrisonsHeddiw bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod aelodau marchnata cwmni Morrisons, i ddilyn y cyfarfod a fu rhwng y cwmni ar Gymdeithas yn ôl yn mis Mehefin 2007. Bwriad y cyfarfod oedd asesu'r datblygiadau diweddar yn eu polisi au defnydd o'r iaith Gymraeg.

Hyd yn hyn dim ond un o'r targedau a osodwyd y llynedd sydd wedi eu gwireddu, sef bod cyhoeddiadau tanoi y cwmni yn ddwyieithog.Mae'r cwmni o hyd yn llusgo traed ar yr holl bwyntiau eraill. Gan gynnwys arwyddion dwyieithog, hyfforddiant staff, cynnyrch lleol, taflenni a phosteri a labeli dwyieithog. Syn dangos taw pitw yw ymrwymiad y cwmni ir iaith.Dywed Osian Jones, Swyddog Maes Gogledd Cymru."Dyma unwaith eto enghraifft o ddifaterwch cwmnïau mawr rhyngwladol tuag at y Gymraeg. Arian ac arian yn unig oedd yr unig reswm gan gwmni Morrisons heddiw. Mae hi'n amlwg bod y cwmni'n poeni mwy am bocedi eu cyfranddalwyr na dim arall, gan gynnwys parhad yr iaith Gymraeg."Ychwanegodd Sioned Haf, Swyddog Ymgyrchoedd y Gymdeithas."Mae'n bwysig nawr bod pawb yng Nghymru yn galfaneiddio er mwyn sicrhau cyfiawnder i'r Gymraeg oddi fewn i gwmnïau mawr fel Morrisons. Rwyf yn erfyn ar bawb i ymuno a ymgyrch 2008 i lythyru a Morrisons au gwneud yn ymwybodol o'r galw yng Nghymru am wasanaethau dwyieithog. Galwn hefyd ar y Cynulliad i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth ieithyddol newydd yn cynnwys y sector breifat."Mwy o wybodaeth am yr ymgyrch lythyru yma.