Achos yn erbyn cyn-gadeirydd a threfnydd y gogledd

Ble mae'r Gymraeg?Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Caernarfon am 9:15 ar Orffennaf 16 eg.

Peintiwyd sloganau ar ganghennau y ddau gwmni yn Llangefni, Caernarfon a Bangor yn gofyn “Ble mae'r Gymraeg?”Meddai Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae angen i Boots a Superdrug weld fod yn rhaid parchu'r Iaith Gymraeg. Gan nad yw'r Llywodraeth, hyd yma, wedi cymryd camau i sicrhau hawliau ieithyddol i bobl Cymru yn y sector breifat mae angen atgoffa'r cwmnïoedd yma o'u cyfrifoldeb tuag y cwsmeriaid sydd yn sicrhau eu helw blynyddol enfawr.""Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Boots a Superdrug, yn ogystal â chwmnïoedd eraill sy'n gweithredu yng Nghymru, i sicrhau bod eu harwyddion parhaol, arwyddion tymhorol, cyhoeddiadau uchelseinydd a phecynnau eu nwyddau yn ddwyieithog, a'u bod yn cynnig hyfforddiant i’w gweithwyr er mwyn creu staff dwyieithog."Ychwanegodd Osian Jones, trefnydd y gogledd:"Dyma ddangos bod gan gwmniau mawr fwy o hawliau na chymunedau Cymru y dyddiau yma. Gwelwn dro ar ôl tro y cwmnïau yma yn sefydlu mewn cymunedau heb ddangos ddim parch o gwbwl i'r cymunedau hynny."