Rhodri Glyn yn taflu llwch i lygaid Pobl Cymru

Ble mae'r Gymraeg?Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Rhodri Glyn Thomas o daflu llwch i lygaid pobl Cymru gyda'i gyhoeddiad heddiw ei fod yn galw ar i 57 o gwmniau gydymffurfio a Deddf Iaith. Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith:

"Ar yr olwg gyntaf mae hon yn edrych yn rhestr addawol iawn, ond o edrych yn fanwl hon yw yr un rhestr yn union ag a gyhoeddwyd gan Alun Pugh y cyn weinidog Diwylliant flwyddyn yn ôl pan oedd 59 o sefydliadau arni. Awgrym pendant fod pethau wedi aros yn eu hunafan ers tro byd.""Yn hytrach na dibynnu ar sbin gwleidyddol, galwn ar i Rhodri Glyn Thomas ganolbwyntio ei holl egnion ar sicrhau Deddf Iaith Newydd, fydd yn cynnwys y sector breifat, ac yn gwneud rhestrau fel yr un gafwyd heddiw yn ddiangen.""Er mwyn pwysleisio'r angen am Ddeddf Iaith Newydd bu i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg dargedu siop Superdrug yng Nghaernarfon neithiwr gan blastro'r adeilad gyda sticeri yn galw am Ddeddf Iaith. Bydd yr ymgyrch hon yn erbyn y sector breifat yn parhau hyd nes y cawn ddeddfwriaeth gadarn ar yr iaith Gymraeg.Darllenwch mwy am yr ymgyrch gweddnewid y sector breifat yma.