Arestio 4 yng Nghaernarfon – Gweithredu yn erbyn Superdrug a Boots

Ble mae'r Gymraeg?Cafodd 4 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan gynnwys Trefnydd Rhanbarth y Gogledd - Osian Jones, a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith - Steffan Cravos, eu harestio wrth weithredu yn uniongyrchol yn erbyn Boots a Superdrug yng Nghaernarfon neithiwr. Codwyd sticeri a phosteri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd a phaentiwyd sloganau ar ganghennau o Boots a Superdrug ym Mangor, Llangefni, Porthmadog a Chaernarfon.

Mae hyn yn rhan o ymgyrch ehangach 'Gweddnewid y Sector Breifat' a fydd yn parhau dros y misoedd nesaf, yn galw ar gwmnïau mawr yn y sector breifat i fabwysiadu polisïau dwyieithog cynhwysfawr ac effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu fel cyrff cwbl ddwyieithog. Mae'r grŵp pwyso yn bygwth rhagor o weithredu yn erbyn Boots A Superdrug os na welir newidiadau cadarnhaol yn eu polisi iaith. Meddai Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae angen i Boots a Superdrug weld fod yn rhaid parchu'r Iaith Gymraeg. Gan nad yw'r Llywodraeth, hyd yma, wedi cymryd camau i sicrhau hawliau ieithyddol i bobl Cymru yn y sector breifat mae angen atgoffa'r cwmnïoedd yma o'u cyfrifoldeb tuag y cwsmeriaid sydd yn sicrhau eu helw blynyddol enfawr."boots-bangor1.jpg"Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Boots a Superdrug, yn ogystal â chwmnïoedd eraill sy'n gweithredu yng Nghymru, i sicrhau bod eu harwyddion parhaol, arwyddion tymhorol, cyhoeddiadau uchelseinydd a phecynnau eu nwyddau yn ddwyieithog, a'u bod yn cynnig hyfforddiant i’w gweithwyr er mwyn creu staff dwyieithog."Boots a Superdrug yw targedau Cymdeithas yr Iaith yn ystod Mis Mai a Mehefin eleni. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn targedu gwahanol gwmnïau cadwyn amlwg eraill dros y flwyddyn nesaf er mwyn pwysleisio'r angen am ddeddf iaith newydd.boots-bangor.jpgTargedau Ymgyrch Gweddnewid y Sector Breifat:Mai/Mehefin '08: Boots/SuperdrugGorffennaf/Awst ’08: Woolworths/W H SmithsMedi/Hydref ’08: Abbey/Co-op BankTachwedd/Rhagfyr ’08: Orange/VodafonePwyswch yma i gymryd rhan yn yr ymgyrch!