Cymdeithas yr Iaith yn targedu Tesco Rhydaman

Ble mae'r Gymraeg?Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i atgoffa Llywodraeth yCynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, byddaelodau o'r Gymdeithas yn picedi y tu fas i siop Tesco yng Rhydamanprynhawn dydd Sadwrn y 26/4 am 2pm. Fe fydd Cymdeithas yr Iaithyn targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis o hyn tan ddiwedd y flwyddyn ganganolbwyntio ar gwmniau Tesco a Morrisons yn ystod mis Mawrth ac Ebrill.

Tesco yw un o'r cwmniau mwyaf sy'n masnachu yng Nghymru a mae nhw'ngwneud elw enfawr - bron i £3 biliwn llynedd - ac yn parhau i dyfu,gyda changhennau newydd yn agor ar hyd y wlad. Er hyn, tocenistiaethyn unig yw eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, gyda'r ddarpariaeth bitwhwnnw'n aml yn israddol ac yn wallus.Dywed Bethan Williams, Cadeirydd grwp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:"Fe fyddwn yn targedi y cwmnïau hynny sydd yn cymryd arian pobl Cymru,ond yn gwrthod cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydymyn galw ar bobl Cymru i lunio llythyr o g?yn i'w ddanfon at y cwmniauyma ynglyn â'u polisi iaith diffygiol."Ychwanegodd:"Rydym yn galw ar y cwmniau yma i sicrhau bod y canlynol ynddwyieithog: pob arwydd parhaol, deunydd marchnata tymhorol acarwyddion dros dro, cyhoeddiadau system sain, pecynnu cynnyrch eihunain. Galwn hefyd arnynt i ddefnyddio cynnyrch lleol lle bo hynny'nbosibl a sefydlu cynlluniau hyfforddi staff i'w galluogi i weithio achynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg."Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:"Fe fyddwn yn dosbarthu taflenni tu fas i Tesco yng Rhydamanbrynhawn Sadwrn gan ofyn i'w cwsmeriaid i lythyru'r cwmni er mwyn eugwneud yn ymwybodol o'r galw yng Nghymru am wasanaethau dwyieithog.Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda Tesco a Morrisons ac mae'n amlwgbellach os na cheir Deddf i orfodi'r sector breifat i roi statwscyfartal i'r Gymraeg - gwasanaeth tocenistaidd Cymraeg yn unig ygallwn ddisgwyl. Galwn felly ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhaubod unrhyw ddeddfwriaeth ieithyddol newydd yn cynnwys y sector breifat."