AS Llafur yn lansio ymgyrch bancio arlein Cymraeg

bancio-arlein.jpg

Fe fydd AS lleol yr Eisteddfod yn lansio ymgyrch dros fancio arlein yn y Gymraeg ar y cyd gyda Chymdeithas yr Iaith y Gymraeg heddiw ( 2pm, Awst 1af).

Bydd Susan Elan Jones, yr Aelod Seneddol Llafur dros Dde Clwyd, yn ymuno a'r awdures Catrin Dafydd i lansio deiseb yn galw ar i fanciau "gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn, gan gynnwys gwasanaeth bancio ar-lein llawn yn y Gymraeg".

Dros y misoedd diwethaf, bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lobio HSBC i gychwyn gwasanaeth arlein, ond maent wedi gwrthod newid ei bolisi. Mewn e-bost at y mudiad, fe ddywedon nhw "...nid oes unrhyw gynlluniau i gynnig bancio personol [ar-lein] drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, er bod eich sylwadau wedi'u nodi..."

Yn siarad yn y lansiad, fe fydd Ceri Phillips, llefarydd hawliau Cymdeithas yn dweud:"Mae'r rhan fwyaf ohonom yn defnyddio banciau o ddydd i ddydd, ond wrth i ragor o ganghennau gau a llyfrau siec dod i ben, mae'n dod yn anos derbyn gwasanaethau yn Gymraeg. Mae'n amhosib i fancio arlein yn Gymraeg. Nid oes un banc yn cynnig gwasanaethau bancio ar-lein yn y Gymraeg, er bod nifer o fentrau sydd yn dibynnu ar wirfoddolwyr yn ei wneud."Wrth i ragor o wasanaethau symud ar-lein, mae nifer o gwmnïau a sefydliadau eraill yn anwybyddu'r Gymraeg. Eu meddylfryd yw fod y Gymraeg yn rhywbeth ymylol nad oes rhaid ei ddarparu, ond mae galw am y gwasanaeth hwn yn Gymraeg."Ers y 60au, mae'r Gymdeithas wedi sicrhau nifer o wasanaethau dwyieithog ychwanegol, ond wrth i dechnoleg newid, mae rhai o'r buddugoliaethau hynny yn cael eu gwrth-droi. Dyna pam rydym yn lansio'r ymgyrch heddiw."

Meddai Susan Elan Jones, AS Llafur De Clwyd:"Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio bancio ar-lein, ac 'rydw i'n credu bod yr amser wedi dod i fanciau gynnig y gwasanaeth yn Gymraeg. Hoffwn ddiolch i Gymdeithas yr Iaith am lansio'r ymgyrch bwysig hon. Rwy'n gobeithio y bydd y Comisiynydd Iaith newydd yn gallu edrych i mewn i wasanaethau banciau pan gaiff hi neu fe ei benodi." Bydd modd arwyddo'r ddeiseb ar Uned Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod:"Rwyf yn defnyddio fy manc o ddydd i ddydd ond yn methu cael gwasanaeth llawn yn Gymraeg er bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru erbyn hyn ac er bod gwasanaeth cyflawn ar gael trwy gyfrwng nifer helaeth o ieithoedd eraill y byd. Yn ogystal, wrth i'r galw am fancio ar-lein gynyddu, bydd gwasanaeth Cymraeg yn cael ei golli. Galwaf arnoch felly i adnewyddu eich polisi iaith a chynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn, gan gynnwys gwasanaeth bancio ar-lein llawn yn y Gymraeg."megaddelwedd.jpg