Neges Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i bobl y Parc fydd wedi teithio i Gaernarfon heddiw i wrando ar benderfyniad Sir Gwynedd ar ddyfodol eu hysgol a'u cymuned yw eu bod eisoes wedi ennill buddugoliaeth a'r hyn y byddant yn ei wneud dydd Iau yw gwahodd y Cynghorwyr i fod yn rhan o'r fuddugoliaeth honno.Am 2 o'r gloch bydd Cyngor Gwynedd yn cyfarfod i benderfynu'n derfynol ar ddyfodol Ysgol y Parc ger y Bala, a disgwylir i rieni a chefnogwyr ymgynnull mewn cyfarfod tu allan i'r Cyngor am 1pm lle bydd Ffred Ffransis ac Angharad Tomos yn dweud gair ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ni bydd plant yr ysgol yn teithio i Gaernarfon y tro hwn gan fod rhieni'n teimlo eu bod dan straen wrth feddwl y gallai eu hysgol gau ac y byddai'r profiad yn ormod iddyn nhw. Bydd Ffred Ffransis cyn torri'r ympryd yn dweud wrth bobl o'r Parc:"Yr ydych chi eisoes wedi ennill buddugoliaeth trwy eich ffyddlondeb i ddyfodol eich ysgol a'ch cymuned Gymraeg ac i addysg y plant. Bu cysgod dros ddyfodol yr ysgol ers pedair blynedd, ac eto nid ydych wedi digalonni. Rydych chi wedi aros yn ffyddlon ac wedi mynnu dyfodol i'ch cymuned heb ganiatáu i unrhyw siom eich rhwystro, a dyma eich buddugoliaeth a'ch sicrwydd at y dyfodol. Dyma fuddugoliaeth na all unrhyw Gyngor ei gymryd oddi wrthych chi. Yn wir, rydyn ni heddiw, yn gwahodd Cyngor Gwynedd i fod yn rhan o'r fuddugoliaeth drwy ddatgan ei fod am gynnal a datblygu Ysgol y Parc fel rhan o'r datblygiadau cyffrous ar gyfer ardal y Bala. Nid buddugoliaeth dros unrhyw un yw eich buddugoliaeth chi, ond buddugoliaeth y mae gwahoddiad agored i bawb fod yn rhan ohoni gan eich bod yn ysbrydoli pawb ohonom i ymgyrchu dros ddyfodol ein cymunedau Cymraeg." Erthygl gynharach ar cymdeithas.org "Ysgolion Gwynedd: Ymgyrchydd yn mynd heb ddwr"Erthygl Golwg360 - 12/05/2011Erthygl Cambrian News - 12/05/2011Erthygl BBC Cymru - 12/05/2011