Gwynedd Môn

Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn picedu cynhadledd Plaid Cymru

piced_plaid3.jpgMi fuodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn picedu cynhadledd Plaid Cymru yn "Venue Cymru" Llandudno heddiw, dydd Sadwrn Medi 12 fed.Buodd yr aelodau yn picedu oherwydd fod y Gorchymyn Iaith fel ac y mae yn rhwystro'r ffordd tuag at hawliau ieithyddol cyflawn, ac i ddangos eu rhwystredigaeth na fydd cwmniau megis Tesco, Boots a Superdrug nac unrhyw siop stryd fawr arall yn cael eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith.

Mis o Garchar i drefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd

Cafodd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd, ddedfryd o fis o garchar wedi ei ohirio gan Lys Ynadon Pwllheli heddiw, am greu difrod troseddol i eiddo siopau PC World a Matalan ym Mangor, wedi iddo godi sticeri a phosteri ar y siopau ym mis Mai, yn galw am Fesur Iaith cyflawn sy'n cynnwys y sector breifat, ac yn cyfathrebu'r neges fod y Gorchymyn Iaith fel y mae yn rhy gul, ac yn rhwystro ffordd pobl Cymru at eu hawliau i'r Gymraeg.

Dros 100 yn mynychu Cyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy'

cyfarfodt-gen09.jpgDaeth dros 100 o bobl i Gyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ym Mhabell y Cymdeithasau, ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala heddiw. Dywedodd Hywel Griffiths arweinydd ymgyrch Cymunedau rhydd y Gymdeithas:"Ers rhai misoedd mae rhai o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd gyda thrigolion Penllyn wedi bod yn trafod y mater hwn.

Cynllunio logo y Coleg Ffederal ar Faes yr Eisteddfod

Am 2pm Llun 3ydd Awst, bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio cystadleuaeth logo ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg y mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud eu bod yn y broses o'i sefydlu. Bydd Angharad Tomos - cartwnydd ac aelod blaenllaw o'r Gymdeithas - yn bresennol yn uned y Gymdeithas ar y maes i gynnal gweithdy ar gyfer myfyrwyr y dyfodol ar lunio logo. Mewn man arall o'r uned, bydd aelodau eraill yn cynllunio logo ar ffurf digidol ar gyfrifiadur.

Cefnogaeth i ddyn a gafodd ei rwystro rhag siarad Cymraeg ym Morrisons, Caergybi

Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal piced Dydd Sadwrn tu allan i siop Morrisons yng Nghaergybi i alw am hawl i weithio drwy'r Gymraeg.

Gweithiwr yn cael ei rwystro rhag siarad Cymraeg yn Morrisons

cymraeg-morrisons.jpgMae wedi dod i sylw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod gweithiwr ym Morrisons Caergybi wedi cael ei atal rhag siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr gan Reolwr y siop.Cafodd Mr David Evans, a oedd yn gweithio yn y siop, ei rybuddio gan Reolwr Morrisons sawl gwaith na ddylai siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr.

LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn!

sticeri-caerdydd.jpgRhoddwyd sticeri 'LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn' ar ffenestri siopau cadwyn ar strydoedd drwy Gymru yn ystod y nos neithiwr (nos Iau, 23ain o Ebrill) er mwyn tynnu sylw nad yw'r cwmnioedd a dargedwyd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith Gymraeg (LCO).Bydd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, yn ymddangos eto o flaen Pwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith yr wythnos nesa,

Gorchymyn Iaith - Cyfle i Fynnu'n Hawliau!

leanne-cy-caerdydd.jpgYn dilyn cyhoeddiad y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.

Dilynwch esiampl yr Alban - Her i Lywodraeth y Cynulliad

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddilyn esiampl Yr Alban (gw. eu datganiad heddiw) trwy osod rhagdyb o blaid ysgolion bach. Yn ôl y Gymdeithas, byddai hyn yn gorfodi gwleidyddion a swyddogion 'diog' i gynllunio'n iawn ar gyfer ysgolion bach a byddai'n rhoi hwb newydd i rieni ac i gymunedau sy'n digalonni am ddyfodol eu hysgolion.

Iceland yn Llusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Iâ

iceland.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo y cwmni gyda'i wreiddiau yng Nghymru o lusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Ia. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis:"Yr oedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Llangefni bore heddiw wrth i gwmni Iceland agor siop newydd yn y dre.