Gwynedd Môn

Cychwyn o'r newydd o ran ysgolion yw neges Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi cefnogi galwad Cynghrair Ysgolion Gwynedd ar i’r Cyngor newydd gydnabod nad oes modd bellach iddo fynd ymlaen i basio’i Gynllun dadleuol i ad-drefnu ysgolion yn y sir. Meddai llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis:"Mae’r un sefyllfa’n wynebu pwy bynnag fydd yn arwain y Cyngor.

Fideo: Picedu Tesco Cyffordd Llandudno

Cymdeithas yr Iaith yn picedu Tesco Cyffordd Llandudno fel rhan o'r ymgyrch i weddnewid y sector breifat.Ebrill 2008

Cymdeithas yn targedu Tesco Cyffordd Llandudno

Ble mae'r Gymraeg?Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bu aelodau o'r Gymdeithas yn picedu tu allan i Tesco Cyffordd Llandudno heddiw. Dosbarthwyd taflenni yn tanlinellu nad yw tocenistiaeth parhaol Tesco tuag at y Gymraeg yn ddigon da.

Fideo: Targedu Morrisons a Tesco Bangor

Rhan o'r ymgyrch i weddnewid y sector breifat 2008.

Croesawu cyfle newydd i Ysgolion Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan y Cyng. Dyfed Edwards (cynghorydd gyda phortffolio addysg Cyngor Gwynedd) y bydd y cynllun i ad-drefnu a ffedereiddio degau o ysgolion yng Ngwynedd y cael ei ohirio am flwyddyn hyd nes bod canllawiau newydd y Cynulliad ar ffedereiddio a chlystyru ysgolion yn glir.

Myfyrwyr yn dyfarnu graddau i'r Prifysgolion

Coleg ffederal CymraegHeddiw, ar ddiwrnod canlyniadau semester un y myfyrwyr mi fydd y myfyrwyr eu hunain yn dyfarnu graddau i Brifysgolion Aberystwyth a Bangor.

Colli Tryweryn - Colli Ysgolion - Colli Iaith

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Cychwynodd Taith Gerdded Cymdeithas yr Iaith dros Ysgolion Pentrefol Gwynedd heddiw gan gerdded o Ysgol y Parc (un o’r rhai cyntaf sy tan fygythiad) at y Capel Coffa ar lan Llyn Celyn. Bu cyfarfod byr am yn y Capel i gofio Tryweryn ac i ymdynghedu i frwydro i beidio a cholli chwaneg o gymunedau Cymraeg o ganlyniad i golli ysgolion.

Cymdeithas ar y ffordd yn y frwydr dros Ysgolion Gwynedd

Ysgol MynyddcerrigBydd aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn gwthio Blwch Postio mawr 75 milltir ar draws sir Gwynedd fel rhan o’r frwydr dros ysgolion pentrefol Cymraeg y sir. Yn ystod y Daith Gerdded hon (wythnos hanner tymor) byddant yn ymweld ag ysgolion y mae Cyngor Gwynedd yn bygwth eu cau yn eu Cynllun Ad-drefnu gan annog trigolion lleol i bostio cannoedd o ymatebion o wrthwynebiad i’r Cynllun.

Dryswch Llywodraeth dros Deddf Iaith Newydd

Rhodri Morgan Bore yma bu aelodau o Rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith yn picedi Rhodri Morgan a oedd yn ymweld â Chaernarfon. Roedd y Gymdeithas yno i danlinellu'r angen am ddeddf iaith gynhwysfawr.Pwyswch yma i weld fideo o'r biced - dailypost.co.uk

Dyfodol Ysgolion Pentrefol Gwynedd - Daliwch i Bwyso

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol Cymraeg i ddod yn llu i'r brotest yng Nghaernarfon cyn cyfarfod allweddol Cyngor Sir Gwynedd, am 12 o'r gloch Dydd Iau yma (13/12/07). Dywed y Gymdeithas fod y pwysau o gymunedau lleol eisioes wedi llwyddo i newid strategaeth y Cyngor Sir ac mai'r werth yw fod angen pwyso o hyd.