Dyfodol Ysgolion Pentrefol Gwynedd - Daliwch i Bwyso

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol Cymraeg i ddod yn llu i'r brotest yng Nghaernarfon cyn cyfarfod allweddol Cyngor Sir Gwynedd, am 12 o'r gloch Dydd Iau yma (13/12/07). Dywed y Gymdeithas fod y pwysau o gymunedau lleol eisioes wedi llwyddo i newid strategaeth y Cyngor Sir ac mai'r werth yw fod angen pwyso o hyd.

Dywed llefarydd y grwp Ffred Fransis,"Mae'r rhaglen a fydd o flaen y Cyngor Sir ar fore Iau yn hollol wahanol i'r hyn fu o flaen y pwyllgor craffu fis yn ol. Bryd hynny dywedwyd mae'r bwriad oedd cyhoeddi yn Medi nesaf, Rhybyddion Statudol i gau hyd at 36 o ysgolion (Categori A), naill ai ar gyfer cau parhaol, neu ar gyfer ad-drefnu. Fe allai hyn wedi golygu llai na 2 ddiwrnod yr un i ystyried tynged pob ysgol. Mae'r Cyngor wedi cytuno bellach y fe allai hynny fod yn sarhad ar y cymunedau lleol, yn weinyddol amhosibl, ag yn anghyfreithlon, gan na ellid rhoi sylw teilwng i bob ysgol.""Erbyn hyn mae'r Cyngor wedi cytuno y bydd trafodaeth ar yr holl gynllun am y pedwar mis nesaf, ac mae wedi gostwng o 36 i 7 nifer yr ysgolion y bwriader penderfynnu ar eu tynged erbyn mis Medi nesaf. Mae'r Cyngor hefyd wedi cytuno i ystyried posibiliadau eraill; o ysgolion yn cydweithio gyda'i gilydd lle nad oedd o'r blaen, parodrwydd i ystyried Ysgolion Ardal neu un model craidd o ffederaleiddio"LLONGYFARCHIADAUMae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch ymgyrchwyr am gweithio'n ffyddlon dros eu cymunedau lleol ac yn falch fod y pwysau eisioes wedi dwyn rhywfaint o ffrwyth. Mae'r Gymdeithas hefyd yn llongyfarch Cyngor Sir Gwynedd am y barodrwydd i wrando a newid eu cynlluniau.GALW AM WELLIANTMewn neges i bob gynghorydd sir, mae'r Gymdeithas wedi galw am basio gwelliant 3 chymal yn y cyfarfod Dydd Iau yma,1. Bod y Cyngor yn 'nodi' yn hytrach na 'cymeradwyo' strategaeth er mwyn dangos bydd trafodaeth deg ag agored a nad oes penderfyniadau wedi eu cymryd o flaen llaw.2. Na bydd unrhyw ymgynghori statudol am ddyfodol hyd yn oed y 7 ysgol sydd yn wedill yn category A tan yr Hydref nesaf, er mwyn caniatau amser am drafodaeth ar strategaeth cyfan.3. Bod diwigiad o amserlen ymgynghori statudol ar gyfer 2008-2009, gan na ellid gwneud cyfiawnder ag achosion unigol trwy geisio penderfynu ar ddyfodol dros dau ddwsin o ysgolion mewn blwyddyn.