Gwynedd Môn

Rheoli'r Farchnad dai - Lansio ymgynghori cyhoeddus.

bawd_deddf_eiddo.jpg Heddiw ym Mhorthmadog, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â chynigion dogfen bolisi Deddf Eiddo’r mudiad. Dros y misoedd diwethaf, bu Grŵp Polisi Cymdeithas yr Iaith yn adolygu cynnwys y ddogfen gynhwysfawr hon – a argraffwyd gyntaf ym 1992 a’i ddiwygio ym 1999 – gan roi sylw i ddatblygiadau diweddar ym maes tai a chynllunio ar draws Prydain.

Rheolwr Awen Meirion yn galw ar weithredu uniongyrchol yn erbyn cyllid y wlad!

Gwyn Sion Ifan - Awen Meirionl Mae Gwyn Sion Ifan, Rheolwr Awen Meirion wedi beirniadu Cyllid y Wlad yn hallt iawn am ragfarnu yn erbyn busnesau sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Chwifio baner o furiau Castell Caernarfon

Deddf Eiddo - Tai i bobl leol Am 11am bore yma (Llun 28.3.05), dringodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ben twr uchaf Castell Caernarfon, gan arddangos baner enfawr a oedd yn datgan ‘Deddf Eiddo – Tai i bobl leol’.

Cefnogi gwraig a ddiswyddwyd ym Mhorthmadog

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw wedi datgan ei chefnogaeth i Mrs Kathleen Parry a gollodd ei swydd yn Woolworth Porthmadog dros ffrae yn ymwneud â’r Gymraeg.

200 yng Nghaernarfon yn galw am Ddeddf Eiddo

caernarfon.jpg Fe ymgasglodd dros 200 o bobl heddiw ar y Maes yng Nghaernarfon i gefnogi galwad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Eiddo. Bu adloniant byw ar y Maes cyn i bawb orymdeithio draw i Swyddfeydd y Cynulliad yn y dref, lle cafodd Proclemasiwn gan y Gymdeithas ei godi ar furiau'r Swyddfeydd.

Rali Calan - Deddf Eiddo i Gymru!

bawd_deddf_eiddo.jpg Yn ystod ei Rali Calan – a gynhelir yfory am 2pm ar y Maes yng Nghaernarfon – bydd Cymdeithas yr Iaith yn condemnio’r ffaith fod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwrthod y cyfle i leddfu effeithiau’r argyfwng tai, trwy fethu a chynyddu ei gyllideb tai yn ei gyllideb ddiwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.

Prisau afresymol - Rhaid rheoli'r farchnad dai!

for_sale.jpg Ar drothwy Rali Calan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – a gynhelir yng Nghaernarfon ar Ionawr 3ydd, er mwyn tynnu sylw at yr argyfwng tai a’r angen am Ddeddf Eiddo – mae ymchwil brys gan y mudiad, wedi dangos nad oes yr un tŷ ar werth gan arwerthwyr tai yng Nghaernarfon, am bris is na £60,000.

Lansio Ymgyrch Newydd dros Gymunedau Cymraeg – yn dilyn methiant y Cynulliad!

logoWAG.jpgYn dilyn methiant Llywodraeth y Cynulliad heddiw i glustnodi unrhyw gyllid sylweddol ar gyfer datrys y broblem dai yn ei cymunedau Cymraeg, mae Cymdeithas yr iaith wedi cyhoeddi heddiw newid cyfeiriad radicalaidd yn ei hymgyrch dros ddyfodol y cymunedau hynny.