Gwynedd Môn

Arestio 4 yng Nghaernarfon – Gweithredu yn erbyn Superdrug a Boots

Ble mae'r Gymraeg?Cafodd 4 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan gynnwys Trefnydd Rhanbarth y Gogledd - Osian Jones, a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith - Steffan Cravos, eu harestio wrth weithredu yn uniongyrchol yn erbyn Boots a Superdrug yng Nghaernarfon neithiwr.

Torri ar draws Cyfarfod Pwyllgor Craffu Addysg Cyngor Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGFe wnaeth dwsin o aelodau Cymdeithas yr Iaith dorri ar draws cyfarfod o Bwyllgor Craffu Addysg Cyngor Gwynedd mewn protest yn erbyn penderfyniad i osod gorchwyl i weithgor newydd o lunio rhestrau o ysgolion i'w cau.

Dywedwch NA wrth y swyddogion - Ple Cymdeithas yr Iaith at Bwyllgor Gwaith newydd Cyngor Ynys Môn

Cyngor Ynys MônMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar aelodau Pwyllgor Gwaith newydd Cyngor Ynys Mon i wrthsefyll pwysau gan y swyddogion o flaen cyfarfod allweddol fory (4/6) i drafod dyfodol ysgolion pentre.

'Mae'r Ysgrifen ar y Mur' - Deddf Iaith Newydd – Yr Her i’r Llywodraeth

Mur Graffiti Deddf Iaith NewyddAm 3 o’r gloch ar ddydd Gwener y 30ain o Fai ar ei stondin ar Faes Eisteddfod yr Urdd bydd bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio dogfen newydd i bwysleisio’r her sydd bellach yn wynebu Llywodraeth y Cynulliad ar fater y Gymraeg.Lawnsir y ddogfen ‘O ddifrif am y Gymraeg: yr her i’r Llywodraeth’, ac fe fydd nifer o ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru yn galw heibio’r uned er mwyn arwyddo m

Ymateb i Adroddiad Cyngor Gwynedd ynglyn â ad-drefnu addysg

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMewn ymateb i adroddiad gan swyddogion Gwynedd i'w roi ger bron y Pwyllgor Craffu Addysg Dydd Iau nesaf mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw arnynt i ddiddymu'r cynllun adrefnu ysgolion yn hytrach na'i ddiwygio.

Academyddion blaenllaw yn galw a'r Jane Hutt i sefydlu Coleg ffederal llawn ac nid bwrdd yn unig

Coleg ffederal CymraegCynhelir Cynhadledd i'r Wasg am 3pm Mercher 28/5 yn uned Cymdeithas yr Iaith ar Faes Eisteddfod yr Urdd. Byddwn yn datgan fod pryder gwirioneddol y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cefnu ar ei addewid i sefydlu Coleg Cymraeg, sy'n rhan sylfaenol o Gytundeb "Cymru'n Un".

Rhowch derfyn ar y gyflafan - Neges Cymdeithas yr Iaith at y Gweinidog Addysg

Cadwn Ein Hysgolion.JPGAr derfyn gorymdaith ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Penrhyn am 3pm heddiw, bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Weinidog Addysg y Cynulliad i “atal y gyflafan arfaethedig o ysgolion pentrefol Cymraeg.”

Cymdeithas yn Eisteddfod yr Urdd

Urdd 2007"O Ddifri Dros y Gymraeg" yw'r thema sy'n clymu gweithgarwch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Cynhelir yr Eisteddfod yng Nghonwy a rhif uned Cymdeithas yr Iaith yw 85 – 86.

Croesawu parodrwydd Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd i weithio gydag ysgolion a chymunedau lleol

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad Dyfed Edwards, arweinydd newydd grwp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, fod yn rhaid "edrych eto ar y cynllun drafft" i ad-drefnu ysgolion cynradd y sir.

Fideo: Protest yn erbyn Morrisons Caernarfon

Protest Cymdeithas yr Iaith yn Morrisons CaernarfonMai 3ydd 2008