Cymdeithas yn Eisteddfod yr Urdd

Urdd 2007"O Ddifri Dros y Gymraeg" yw'r thema sy'n clymu gweithgarwch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Cynhelir yr Eisteddfod yng Nghonwy a rhif uned Cymdeithas yr Iaith yw 85 – 86.

3pm Dydd Llun 26 Mai – Uned Cymdeithas yr IaithCyfarfod 'Cadwn Ein Hysgolion Pentrefol Cymraeg'Bydd cynulliad o blant, rhieni a chefnogwyr ysgolion pentrefol Cymraeg o Gymru ben baladr yn ymgasglu tu allan i uned y Gymdeithas ar y Maes. Yna byddant yn gorymdeithio at uned llywodraeth y Cynulliad.3pm Mercher 28 Mai – Uned Cymdeithas yr IaithLansiad Ymgyrch "Mynnwn Goleg Cymraeg – nid Cwango Arall."Bydd gweithwyr ym maes addysg uwch Cymraeg yn lansio ymgyrch ar gyfer sicrhau amodau teg i Goleg Cymraeg go iawn. Daliwn ar y cyfle hanesyddol hwn a gwrthodwn gyfaddawd.3pm Gwener 30 Mai – Uned cymdeithas yr Iaith"Mae'r Sgrifen ar y Mur – O Ddifri Dros y Gymraeg."Mynnwn Ddeddf Iaith Newydd gan Lywodraeth Cymru'n Un. Bydd nifer o enwogion y genedl yn dod i'r Uned i ddatgan cefnogaeth i'r ymgyrch.Byddwn hefyd yn lansio dogfen arbennig "O Ddifri Dros y Gymraeg – Yr her i Lywodraeth y Cynulliad" yn ystod yr wythnos.