Croesawu parodrwydd Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd i weithio gydag ysgolion a chymunedau lleol

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad Dyfed Edwards, arweinydd newydd grwp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, fod yn rhaid "edrych eto ar y cynllun drafft" i ad-drefnu ysgolion cynradd y sir.

Meddai llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:"Yr ydym yn croesawu’n arbennig yr ymrwymiad newydd i weithio gydag ysgolion a chymunedau lleol yn hytrach na cheisio gwthio arnynt dogma o’r canol. Dim ond o’r gwaelod i fyny y gellir creu cyfundrefnau addysg y bydd cymunedau lleol yn teimlo perchnogaeth arnynt, ac a fyddant yn cryfhau’n cymunedau pentrefol Cymraeg.""Credwn fodd bynnag mai is-ddweud trawiadol yw datgan 'fod diffyg cytundeb wedi bod i agweddau o’r cynllun'. Er mwyn adfer ymddiriedaeth ymhlith y bobl, rhaid fydd i’r Cyngor roi heibio’r cynllun yn ddi-amwys. O wneud hynny, gall ymdrafod onest a deallus gychwyn. Galwn ar bobl i ddod i Gaernarfon ar y 5ed o Fehefin at gyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg er mwyn sicrhau fod y neges yn glir."