Ar derfyn gorymdaith ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Penrhyn am 3pm heddiw, bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Weinidog Addysg y Cynulliad i “atal y gyflafan arfaethedig o ysgolion pentrefol Cymraeg.”
Meddai Ffred Ffransis, llefarydd y Gymdeithas ar Addysg:“Caiff dau adroddiad sylweddol eu cyhoeddi eleni a allent gynnig llawer o bosibiliadau newydd ar gyfer ein hysgolion pentrefol. Disgwyliwn erbyn Gorffennaf ddrafft Adran Addysg y Cynulliad o’i chanllawiau newydd ar gyfer Awdurdodau Addysg Leol o ran trin ysgolion pentrefol, ac fe obeithiwn y bydd y canllawiau hyn yn cydnabod gwerth ysgolion pentrefol Cymraeg. Ar yr un pryd, bydd Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i ad-drefnu addysg gynradd mewn ardaloedd gwledig, a bydd Cadeirydd yr Is-bwyllgor (Alun Davies AC) yn ymweld yn ystod yr wythnos ag uned Cymdeithas yr Iaith ar y maes i weld tystiolaeth gan ddisgyblion, llywodraethwyr a phrifathrawon.”Eglurodd Mr Ffransis y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried ymatebion i’r adroddiadau hyn ac yn dod i benderfyniadau tua diwedd y flwyddyn. Ychwanegodd:“Mae’n wirion felly fod Awdurdodau Lleol yn cychwyn eleni unrhyw brosesau statudol newydd a allent arwain at gau ysgolion pentrefol cyn bod casgliadau’r ddau adroddiad hyn yn wybyddus. Galwn ar y Gweinidog i anfon cyfarwyddyd atynt i ymatal ac felly osgoi’r gyflafan arfaethedig o ysgolion pentrefol Cymraeg.”• Am 3pm heddiw, bydd plant, athrawon a llywodraethwyr yn ymgynnull yn uned Cymdeithas yr Iaith ar faes y Brifwyl i dystio i bwysigrwydd ysgolion pentrefol Cymraeg i’w haddysg ac i’w cymunedau. Y prif siaradwyr fydd y disgyblion eu hunain. Wedyn bydd gorymdaith at uned Llywodraeth y Cynulliad ar y maes i gyflwyno’r llythyr. Pwyswch yma i weld copi o'r llythyr.• Ar ddechrau’r cyfarfod, fe ddangosir y ffilm “Diwrnodau Olaf Ysgol Mynyddcerrig”. Bydd cynrychiolydd o swyddfa Comisiynydd Plant Cymru’n bresennol i weld effaith cau ysgolion ar y plant eu hunain.