Gwynedd Môn

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Herio Morrisons Bangor yn yr Ymgyrch Dros Ddeddf Iaith

Archfarchnad MorrisonsAm 2.30 prynhawn dydd Sadwrn 08.12.07 fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal protest tu allan i siop gadwyn Morrisons ym Mangor. Hon oedd y drydedd mewn tair protest i Gymdeithas yr Iaith ei chynnal yn erbyn y cwmni hwn. Bythefnos yn ôl cynhaliwyd protest yn erbyn Morrisons Caerfyrddin, yna dydd Sadwrn diwethaf bu protest debyg yn erbyn Morrisons Aberystwyth.

Camgymeriad gan Arweinwyr Cyngor Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi danfon llythyr agored at bob aelod o Gyngor Gwynedd yn galw arnynt i beidio a chefnogi'r cynllun dadleuol i ad-drefnu ysgolion y sir gan fod arweinwyr y Cyngor wedi gwneud camgymeriad sylfaenol o ran ymgynghori cyhoeddus.

Apel funud olaf at Gyngor Sir Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud apêl funud olaf at arweinydd Cyngor Sir Gwynedd i dynnu nôl y bygythiad i gau dwsinau o ysgolion cynradd Cymraeg, o flaen cyfarfod allweddol heddiw o’r Pwyllgor Craffu Addysg.

Galw ar gyngor Gwynedd i wrando ar lais y bobl

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar arweinwyr Cyngor Gwynedd i wrando ar lais y bobl yn dilyn y cyhoeddiad heddiw o strategaeth sy'n bygwth dyfodol degau o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir.

Arestio cyn-gadeirydd mewn protest ym Mhorthmadog

TescoCafodd Steffan Cravos, cyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ei arestio am godi posteri yn galw am ddeddf Iaith newydd ar ffenestri siop Tesco mewn protest o dros 150 o bobl ym Mhorthmadog am 2pm heddiw. Cafodd y brotest ei gynnal er mwyn pwylsiesio'r angen am Ddeddf Iaith Newydd gadarn ac i bwysleisio fod angen i gwmniau preifat mawr fel Tesco wneud defnydd llawn o'r Gymraeg, nid 'tipyn bach' yn unig.

Cymdeithas yn parhau gyda Protest Thomas Cook

Thomas Cook ban WelshMae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gonsesiynau diweddaraf Thomas Cook trwy gyhoeddi ei bod am fwrw mlaen gyda'r brotest am 1pm Ddydd Gwener tu allan i siop y cwmni teithio ym Mangor.

Rhoi Tridiau i Thomas Cook

Thomas Cook ban WelshMae Cymdeithas yr iaith Gymraeg yn cyhoeddi heddiw ei bod yn rhoi tri diwrnod i'r cwmni teithio Thomas Cook newid ei feddwl ar fater gwahardd y staff rhag siarad Cymraeg.

Trafod â Morrisons + Agwedd warthus Thomas Cook

Morissons + Thomas CookAr ddydd Llun, 11fed o Fehefin bydd cynrychiolwyr o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod a rheolwyr Prydeinig archfarchnad Morrisons ym mhencadlys y cwmni ym Manceinion. Byddant yn trafod galwadau Cymdeithas yr Iaith ar i Morrisons ddatblygu strategaeth genedlaethol er mwyn darpau gwasanaethau a nwyddau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhaid i Thomas Cook ildio

Thomas Cook ban WelshMae Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl y bydd y cwmni teithio Thomas Cook yn tynnu nôl yn fuan iawn oddi wrth ei safiad ar ganiatau i staff siarad Cymraeg yn ystod oriau gwaith. Os na fydd hyn yn digwydd, cynhelir protest fawr o flaen eu swyddfa ym Mangor am 1pm dydd Gwener (15/06).

Targedu siop Morrisons ym Mangor

Archfarchnad MorrisonsCafodd siop Morrisons ym Mangor ei dargedu heddiw ar ddiwedd protest yn galw am Ddeddf Iaith, gan tua 250 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fe ddechreuodd y brotest wrth y cloc yn y dre cyn i'r protestwyr orymdeithio at y siop ym Mangor Uchaf.Pan gyrhaeddodd y protestwyr Morrisons fe feddianwyd y siop, ac eisteddodd y 250 o brotestwyr wrth y fynedfa.