Arestio cyn-gadeirydd mewn protest ym Mhorthmadog

TescoCafodd Steffan Cravos, cyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ei arestio am godi posteri yn galw am ddeddf Iaith newydd ar ffenestri siop Tesco mewn protest o dros 150 o bobl ym Mhorthmadog am 2pm heddiw. Cafodd y brotest ei gynnal er mwyn pwylsiesio'r angen am Ddeddf Iaith Newydd gadarn ac i bwysleisio fod angen i gwmniau preifat mawr fel Tesco wneud defnydd llawn o'r Gymraeg, nid 'tipyn bach' yn unig.

Cafodd y protestwyr eu hannerch gan Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Gwenno Teifi yr aelod o Gymdeithas yr Iaith gafodd ei charcharu yn gynharach yr wythnos hon am ei rhan yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith.Dywedodd Gwenno Teifi yn ystod y brotest:"Gyda'r glymblaid newydd sy'n llywodraethu Cymru wedi ymrwymo i Ddeddf Iaith ein lle ni yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg yw sicrhau nad Deddf Iaith ddiwerth a gawn ac y bydd ymysg pethau eraill yn ymestyn i'r sector breifat.""Rhaid sicrhau fod cwmniau preifat mawrion fel Tesco sydd wedi ennill yr enw o danseilio cymunedau yn y gorffennol yn atebol i'r ddeddf ac yn, canitau i staff siarad Cymraeg yn y gweithle, ymgynghori gyda cholegau lleol i sicrhau fod ganddynt staff sy'n gallu siarad Cymraeg, sicrhau fod eu holl arwyddion parhaol yn ddwyieithog, sicrhau fod labeli y nwyddau hynny a baratoir ganddynt yn ddwyieithog, sicrhau fod eu llenyddiaeth hyrwyddo yn ddwyieithog, sicrhau fod y negeseuon cyhoeddus a draddodir dros uchel seinydd y siop yn ddwyieithog, sicrhau fod yr adrannau perthnasol i Gymru ar wefan y cwmni yn ddwyieithog a gwneud defnydd llawn o gynyrch lleol yn eu siopau."Yn ei araith, dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Gyda'r llywodraeth newydd mewn grym yng Nghaerdydd, mae gennym o'r diwedd y cyfle i sicrhau Deddf Iaith all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru. Rhaid sicrhau nad Deddf Iaith wan a diwerth a gawn gan na ddaw cyfle eto i newid pethau am genhedlaeth arall ac erbyn hynny bydd yn rhy hwyr i achub y cymunedau Cymraeg eu hiaith."TescoBlocio14_7_07.jpgTescoProtest_14_7_07.jpgCrafosArestio1.jpgActivist arrested over Tesco protest - Daily Post, 16/08/07Language activists ‘held in Tesco protest’ - Western Mail, 16/08/07LaNua.jpg