Camgymeriad gan Arweinwyr Cyngor Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi danfon llythyr agored at bob aelod o Gyngor Gwynedd yn galw arnynt i beidio a chefnogi'r cynllun dadleuol i ad-drefnu ysgolion y sir gan fod arweinwyr y Cyngor wedi gwneud camgymeriad sylfaenol o ran ymgynghori cyhoeddus.

Pan basiwyd y cynnig yn y Pwyllgor Craffu, dywedwyd na byddai ymgynghori ffurfiol yn cychwyn tan Medi ar ol trafodaethau "anffurfiol" ac "anstatudol". Daeth yn amlwg bellach mai'r gwrthwyneb sydd wir - sef bod y swyddogion am orffen y broses erbyn hynny a chyhoeddi Rhybuddion Statudol i gau ysgolion ym Medi.Mae'r llythyr - a arwyddwyd gan lefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis - yn egluro y bydd y swyddogion yn cynnal rhwng Ionawr a Mawrth un cyfarfod ymgynghori statudol yn unig ym mhob un o'r 33 ysgol y maent am eu cau (yn barhaol neu i'w had-drefnu) ar y rhestr cyntaf. Golygai hynny lai na 2 ddiwrnod i ystyried tynged pob ysgol gyda'r gobaith o gyhoeddi rhestr terfynol o ysgolion i'w cau yn y rhan gyntaf erbyn Mehefin.Mae Mr Ffransis yn galw ar gynghorwyr, yn eu cyfarfod y mis nesaf i "bleidleisio'n erbyn rhuthro dros y dibyn" ac i basio gwelliant yn galw am drafodaeth trwy'r sir ar holl amcanion y cynllun gan gyfarwyddo swyddogion i ddychwelyd gyda chynllun arall yn unol a dymuniadau'r bobl. Mae'r Gymdeithas yn danfon yr alwad hon at bob cynghorydd ac yn trafod gyda grwpiau ymgyrchu lleol trwy'r sir.Llythr at Gynhorwyr Gwynedd (pdf)Ymateb Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith i ddrafft-gynllun Cyngor Sir Gwynedd Ad-drefnu Ysgolion Cynradd y Sir (pdf)DOGFEN: Ysgolion Pentre - Yr achos dros Resymoli Cadarnhaol (pdf)