Gwynedd Môn

Gig er mwyn Gasa

Ar nos Wener, Mawrth 13, bydd noson arbennig iawn yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon i godi arian i bobl Gasa. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu drwy ddod i gefnogi noson lle bydd Steve Eaves a Gwilym Morus yn chwarae. Steve Eaves ei hun sydd wedi cynnig cynnal noson, ac rydym yn ffyddiog y bydd yn gyfle i nifer fawr iawn o gyfrannu i achos sydd wedi eu cyffwrdd yn ddwfn.

Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando

Cadwn Ein Hysgolion.JPGHeddiw (Chwefror 5ed 2009) daeth Gweithgor Ysgolion Gwynedd yn ôl ac argymhellion o flaen y Pwyllgor Craffu Plant a Phobol Ifanc, yn datgan y bydd y cyngor yn mynd rhagddi gyda chynllun o ymgynghori llawn.

Meddiannu Eiddo dros ein Cymunedau Cymraeg

7.jpgAm 11 yb ar ddydd Sadwrn yr 24ain o Ionawr, meddiannwyd fflat yn natblygiad Doc Fictoria yng Nghaernarfon gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae'r weithred symbolaidd hon yn rhan o'r ymgyrch dros ddyfodol cymunedau Cymraeg Cymru, a thros sefydlu'r Hawl i Rentu fel rhan o?r ateb i'r argyfwng sy'n wynebu'r cymunedau hynny.

Ofcom yn dyfarnu trwydded newydd i wasanaeth radio uniaeth Saesneg

Yng nghanol prysurdeb y Nadolig, efallai na sylwodd nifer o bobl ar y cyhoeddiad bod Ofcom Cymru wedi dyfarnu trwydded radio masnachol newydd ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. Real Radio yw deiliaid y drwydded newydd, a bydd eu gorsaf yn dechrau darlledu o fewn y ddwy flynedd nesaf - a hynny drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Dirwyon Trwm i Ymgyrchwyr Iaith

Steffan Cravos a Osian Jones yn y LlysDerbyniodd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Steffan Cravos ac Osian Jones, ddirwyon a chostau o £750 yr un ar ôl ymddangos ger bron Llys Ynadon Pwllheli heddiw. Cafwyd y ddau yn euog o achosi difrod troseddol i siopau Boots a Superdrug yn Llangefni, Caernarfon a Bangor.

Aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Llys

Steffan Cravos a Osian Jones yn y LlysBydd dau aelod amlwg o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Pwllheli am 10.30 bore dydd Gwener, Hydref 17. Cyhuddir Steffan Cravos, cyn- gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngogledd Cymru o ddifrod troseddol.

Dau aelod yn y Llys yng Nghaernarfon

Ble mae'r Gymraeg?Bydd Steffan Cravos cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon yfory (dydd Mercher Gorffennaf 16) am 9 o'r gloch y bore wedi eu cyhuddo o achosi difrod troseddol i siopau Superdrug a Boots yn Llangefni, Bangor a Chaernarfon ar Fehefin 9.

Achos yn erbyn cyn-gadeirydd a threfnydd y gogledd

Ble mae'r Gymraeg?Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Caernarfon am 9:15 ar Orffennaf 16 eg.

Cymdeithas yr Iaith yn croesawu y newid llwyr ym mholisi ysgolion Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad y Cynghorydd Liz Saville (deiliad portffolio Addysg Cyngor Gwynedd) fod yr hen gynllun ad-drefnu ysgolion wedi dod i ben ac nad oes bellach unrhyw restr o ysgolion i'w cau, nac ychwaith gynlluniau gorfodi newid ar ysgolion eraill.

Nid lle gweithgor o'r Cyngor yw argymell cau ysgolion unigol

baner-protestcaernarfon-190.jpg Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bawb sy'n rhydd i deithio i ddod i Gaernarfon am 1pm Iau 19eg Mehefin o flaen cyfarfod allweddol o Gyngor Sir Gwynedd. Bydd y Cyngor yn ystyried cynnig i sefydlu gweithgor i lunio polisi ad-drefnu newydd. Yn ôl y Pwyllgor Craffu Addysg, rhan o swyddogaeth y gweithgor hwnnw fydd "llunio rhestr o ysgolion i'w cau".