Dirwyon Trwm i Ymgyrchwyr Iaith

Steffan Cravos a Osian Jones yn y LlysDerbyniodd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Steffan Cravos ac Osian Jones, ddirwyon a chostau o £750 yr un ar ôl ymddangos ger bron Llys Ynadon Pwllheli heddiw. Cafwyd y ddau yn euog o achosi difrod troseddol i siopau Boots a Superdrug yn Llangefni, Caernarfon a Bangor.

osian-steffan-pwllheli.jpgRoedden nhw wedi peintio sloganau ar y siopau hyn yn galw am gyfiawnder i'r Gymraeg fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf iaith yn ôl ym Mis Mehefin.Dywedodd y ddau nad oedd yn fwriad ganddynt dalu'r dirwyon nes y byddai Deddf Iaith gyda phwerau yn ymestyn i'r sector breifat yn cael ei phasio gan lywodraeth y Cynulliad.osian-steffan-pwllheli1.jpgY cam nesaf ym mrwydr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw Rali genedlaethol a drefnir gan Gymdeithas yr iaith Gymraeg ar ddydd Sadwrn Hydref 25 yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth.