Cynllunio logo y Coleg Ffederal ar Faes yr Eisteddfod

Am 2pm Llun 3ydd Awst, bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio cystadleuaeth logo ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg y mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud eu bod yn y broses o'i sefydlu. Bydd Angharad Tomos - cartwnydd ac aelod blaenllaw o'r Gymdeithas - yn bresennol yn uned y Gymdeithas ar y maes i gynnal gweithdy ar gyfer myfyrwyr y dyfodol ar lunio logo. Mewn man arall o'r uned, bydd aelodau eraill yn cynllunio logo ar ffurf digidol ar gyfrifiadur. Bydd y Gymdeithas yn cyflwyno'r syniad gorau ar ddiwedd yr wythnos i Lywodraeth y Cynulliad gan ofyn iddynt anfon gwobr at yr enillydd !Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis " Mae'n bwysig iawn fod y Coleg Ffederal Cymraeg yn cychwyn yn swyddogol y flwyddyn nesaf yn ystod tymor presennol y Cynulliad. Er mwyn cynyddu'r ymwybyddiaeth fod y Coleg ar fin dod o'r diwedd, rydym yn trefnu'r gystadleuaeth logo ar gyfer y sefydliad nwydd, gan wahodd pobl i alw yn ein huned ar Faes yr Eisteddfod trwy'r wythnos i lunio cynigion. Yr ydym hefyd wedi agor cofrestr myfyrwyr ar gyfer y coleg - yn cynnwys myfyrwyr ar gyfer blynyddoedd i ddod ac hefyd ar gyfer pobl a hoffent ddilyn cyrsiau tan y Coleg Cymraeg yn eu cymunedau."