Mae ymgyrchwyr Iaith wedi ymateb yn ffyrnig i benderfyniad Ysgrifennydd Ddiwylliant y DG, Jeremy Hunt, i wrthod cynnal adolygiad o S4C.Ychydig wythnosau yn ôl ysgrifennodd arweinydd pob plaid yng Nghymru at David Cameron yn gofyn am "archwiliad cynhwysfawr" o'r sianel. Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'n anhygoel fod Jeremy Hunt yn ceisio trin democratiaeth Cymru yn y ffordd hon. Doedd e ddim wedi ymgynghori gyda neb o Gymru am ei gynllun munud olaf i'r BBC traflyncu'r sianel, nawr mae fe'n anwybyddu arweinydd pob plaid yng Nghymru. Mae'n sarhad.""Y cyfan ni'n gofyn amdano yw amserlen synhwyrol i drafod S4C, ond does gan Jeremy Hunt ddim cynllun i ganiatáu hynny sy'n dangos cyn lleied mae'n poeni am roi dyfodol i S4C. Rwy'n si?r bydd pobl wedi gwylltio fod ganddo'r haerllugrwydd i drin Cymru a gymaint o ddiffyg parch.""Mae'n gliriach nawr bod rhai gwleidyddion yn defnyddio'r gofyniad i aelodau awdurdod S4C ymddiswyddo er mwyn tynnu sylw oddi ar fwriad Llywodraeth San Steffan i ddinistrio ein hunig sianel Cymraeg. Beth fyddai yn digwydd petai'r aelodau i gyd yn mynd? A fyddai hawl i Jeremy Hunt, yr un sydd wedi cwtogi ar grant y Llywodraeth i S4C 94%, benodi cwn-bach ei hun? Oni fyddai hynny'n peryglu annibyniaeth wleidyddol y sianel?""Mae S4C yn wynebu toriadau mewn termau real i gyllid y sianel o dros 40%, cael ei draflyncu gan y BBC, a grymoedd eang yn cael eu rhoi yn nwylo Gweinidogion yn San Steffan i gael gwared a'r sianel yn llwyr. Dylen ni ddim gadael i'r ddadl am unigolion cuddio'r gwir beryglon sef cynlluniau Llywodraeth San Steffan.""Rhaid tynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus. Rydym ni fel ymgyrchwyr yn dweud fod rhaid gwarantu annibyniaeth rheolaeth ac annibyniaeth olygyddol lwyr i S4C heb ymyrraeth oddi wrth y BBC na'r Llywodraeth a bod fformiwla gyllido annibynnol ar gyfer y sianel Gymraeg, ar sail chwyddiant, yn hanfodol er mwyn sicrhau arian teg i greu rhaglenni Cymraeg o safon. Rydym yn cydnabod y gallai S4C berfformio yn well - dyna pam rydym yn ymgyrchu dros S4C newydd, ond ni fydd hynny'n bosib o dan y cynlluniau hyn."