S4C: Protest yn swyddfa Gweinidog

hunt-terrorist.jpgMae protestwyr iaith wedi targedu swyddfa etholaeth yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt heddiw (Dydd Mercher, Rhagfyr 15) mewn protest yn erbyn y toriadau i S4C a'r cynlluniau i uno'r sianel a'r BBC. Gosododd 3 ymgyrchydd bosteri lan ar swyddfa Jeremy Hunt yn Hindhead, Surrey. Dywed y posteri: "Mae o [Jeremy Hunt] am ladd yr unig sianel deledu Cymraeg yn y byd." Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Bu Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu i sefydlu S4C yn y saithdegau, a chacharwyd nifer am wrthod talu'r drwydded teledu. Rydym yn fudiad di-drais sydd yn gweithredu'n uniongyrchol fel opsiwn olaf. Mae'n haelodau wedi'u siomi cymaint gan frad y Llywodraeth nes eu bod yn fodlon cymryd camau difrifol er mwyn achub ein hunig sianel deledu Gymraeg. Mae'n bwysig hefyd i ni gofio bod gwleidyddion y blaid geidwadol wedi bod yn addo cyn yr etholiad y byddai'r sianel yn saff yn eu dwylo nhw, mae'n glir nawr nad oedden nhw'n dweud y gwir.""Mae'r sianel yn wynebu toriadau i'w chyllid a fydd, mewn termau real, dros 40%; bydd yn cael ei draflyncu gan y BBC; a bydd grymoedd eang yn cael eu rhoi yn nwylo Gweinidogion yn San Steffan i gael gwared a S4C yn llwyr. Dydy Jeremy Hunt ddim wedi ystyried goblygiadau hynny i ni yma yng Nghymru.""Doedd Jeremy Hunt ddim wedi ymgynghori gydag unrhyw un yng Nghymru am ei gynllun munud olaf ar gyfer ein sianel. Mae hyn yn brawf nad oes gan y Ceidwadawyr unrhyw ddiddordeb yn ein diwylliant ni yma yng Nghymru nac yn llais y bobl chwaith. Bydd y BBC yn traflyncu'r sianel - mae'n sarhad llwyr."Rhaid tynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus. Rydym ni fel ymgyrchwyr yn dweud fod rhaid gwarantu annibyniaeth rheolaeth ac annibyniaeth olygyddol llwyr i S4C heb ymyrraeth oddi wrth y BBC na'r Llywodraeth; a bod fformiwla gyllido annibynnol ar gyfer y sianel Gymraeg, ar sail chwyddiant a mewn statud, yn hanfodol er mwyn sicrhau arian teg i greu rhaglenni Cymraeg o safon. Rydym yn cydnabod y gallai S4C berfformio yn well - dyna pam rydym yn ymgyrchu dros S4C newydd, ond ni fydd hynny'n bosib o dan gynlluniau Jeremy Hunt."