Fe wrthododd pennaeth y BBC, Mark Thompson, roi sicrwydd o gyllid gan y BBC i S4C wedi 2015 pan gafodd ei holi gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd heddiw.Fe holwyd Mark Thompson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, gan aelodau o'r Gymdeithas wrth gyrraedd cinio a drefnwyd gan y BBC ar gyfer gwleidyddion a phwysigion eraill ym mwyty drudfawr y Woods Brasserie, Bae Caerdydd amser cinio heddiw.Yn ystod sgwrs hir gydag aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, fe wrthododd Mark Thompson roi unrhyw sicrwydd ynglyn â chyllid ar gyfer S4C oddi wrth y BBC ar ol 2015.Pan gafodd ei holi a oedd yn gallu gwarantu cyllid, dywedodd Mark Thompson: "As I say, as I say, I'm not either guaranteeing or not guaranteeing..."*Dywedodd Menna Machreth, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar ddarlledu:"Fe gafodd Mark Thompson ei holi droeon a oedd yn gallu rhoi sicrwydd o gyllid ar gyfer S4C ar ol 2015 pryd y bydd y cytundeb rhwng Llywodraeth Llundain a'r BBC yn Llundain yn dod i ben. Nid oedd e'n gallu rhoi sicrwydd o'r fath. Mae S4C yn wynebu toriadau mewn termau real i gyllid y sianel o dros 40%, cael ei draflyncu gan y BBC, a grymoedd eang yn cael eu rhoi yn nwylo Gweinidogion yn San Steffan. Mae'n gliriach nag erioed y bydd y dêl hwn rhwng y BBC a'r Toriaid yn lladd S4C oni bai fod rhywbeth yn newid""Rhaid tynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus. Rydym ni fel ymgyrchwyr yn dweud fod rhaid gwarantu annibyniaeth rheolaeth ac annibyniaeth olygyddol lwyr i S4C heb ymyrraeth oddi wrth y BBC na'r Llywodraeth a bod fformiwla gyllido annibynnol ar gyfer y sianel Gymraeg, ar sail chwyddiant, yn hanfodol er mwyn sicrhau arian teg i greu rhaglenni Cymraeg o safon. Rydym yn cydnabod y gallai S4C berfformio yn well - dyna pam rydym yn ymgyrchu dros S4C newydd, ond ni fydd hynny'n bosib o dan y cynlluniau hyn."