Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i'r newyddion bod S4C yn sefydlu cynllun diswyddiadau gwirfoddol ymhlith ei staff.Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Dechreuad yn unig yw hwn. Mae toriadau enfawr y Llywodraeth yn rhoi dyfodol S4C fel sianel annibynnol yn y fantol. Os nad yw pethau yn newid yn fuan, ni fydd digon o staff ar ôl gyda'r sianel i gynnal gwasanaeth annibynnol, ac fe fydd y BBC yn cymryd drosodd yn gyfangwbl.