Targedu Nick Clegg yn Aberaeron

clegg-aberaeron.jpgMae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi targedu Nick Clegg y Dirprwy Brif Weinidog ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar ei ymweliad ag Aberaeron.Maent wedi defnyddio ei ymweliad i'w herio ar fater dyfodol S4C a'r ffaith fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi bradychu pobl Cymru a gwerthu mâs ar y pwnc hwn.Dywedodd Bethan Williams Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd ymysg y rhai aeth i Aberaeron i brotestio yn ei erbyn."Mae'r Arglwydd Roger Roberts wedi tynnu ei welliant oedd yn ymwneud a dyfodol S4C yn ôl mewn dadl ar y Mesur Cyrff Cyhoeddus yn Nh?'r Arglwyddi ychydig dros wythnos yn ôl er nad oedd wedi ennill unrhyw gonsesiynau pwysig drwy wneud hyn.""Mae'n amlwg nad yw Nick Clegg na'r llywodraeth y mae'n aelod ohoni yn barod i wrando ar farn pobl Cymru ar fater S4C. Nid yw hyd yn oed yn barod i wrando ar farn Mark Williams, Aelod Seneddol Ceredigion nac ar farn Kirsty Williams arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru sydd fel arweinwyr eraill y pleidiau yng Nghymru wedi ysgrifennu at Jeremy Hunt yn galw arno i gynnal arolwg annibynnol i Ddyfodol S4C cyn symud ymlaen gydag unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth Cymraeg."Dywedodd Bethan Williams ymhellach:"Os nad yw Nick Clegg a'i lywodraeth yn barod i wrando ar aelodau ei Blaid ei hun, gobeithio y bydd yn manteisio ar y cyfle i wrando ar Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberaeron heddiw."